Newyddion S4C

Yr Unol Daleithiau i 'ymateb' i'r ymosodiad ar eu milwyr yn yr Iorddonen

29/01/2024
JOE BIDEN

Dywedodd yr Arlywydd Joe Biden y bydd yr Unol Daleithiau’n “ymateb” i'r ymosodiad gan grŵp milwrol sy'n derbyn cefnogaeth gan Iran, ar ôl i dri o filwyr America gael eu lladd a dwsinau eu hanafu yng ngogledd-ddwyrain yr Iorddonen.

Roedd swyddogion yr Unol Daleithiau yn gweithio i geisio adnabod y grŵp y tu ôl i'r ymosodiad ond hyd yn hyn maent yn credu mai un o nifer o grwpiau gyda chefnogaeth Iran oedd yn gyfrifol.

Dywedodd Mr Biden mewn datganiad ysgrifenedig y bydd yr Unol Daleithiau “yn dal pawb sy’n gyfrifol i gyfrif ar adeg ac mewn modd (o’n dewis) ni”.

Mae’r Arglwydd David Cameron hefyd wedi condemnio ymosodiad y grŵp milwrol.

Mae Ysgrifennydd Tramor y DU wedi ailadrodd galwadau ar Iran i ostwng tensiynau yn y rhanbarth yn dilyn marwolaethau cyntaf milwyr o'r Unol Daleithiau yno ers dechrau rhyfel Israel ag Hamas y llynedd.

'Condemnio'

Mewn post ar X ddydd Sul, dywedodd yr Arglwydd Cameron: “Rydym yn condemnio’n gryf ymosodiadau gan grwpiau milisia sydd wedi’u cefnogi gan Iran yn erbyn lluoedd yr Unol Daleithiau. 

"Rydym yn parhau i annog Iran i ddad-ddwysáu yn y rhanbarth.

“Mae ein meddyliau gyda’r personél hynny o’r Unol Daleithiau sydd wedi colli eu bywydau a phawb sydd wedi dioddef anafiadau, yn ogystal â’u teuluoedd.”

Mae lluoedd yr Unol Daleithiau wedi defnyddio'r Iorddonen fel lleoliad i'w byddin ers cryn amser.

Mae'r wlad yn ffinio ag Irac, Israel, y Lan Orllewinol, Saudi Arabia a Syria.

Ers i'r rhyfel yn Gaza ddechrau, mae grwpiau sy'n cael eu cefnogi gan Iran wedi taro targedau milwrol Americanaidd yn Irac fwy na 60 o weithiau ac yn Syria fwy na 90 gwaith gyda dronau, rocedi, morteri a thaflegrau balistig.

Yr ymosodiad ddydd Sul oedd y cyntaf i dargedu milwyr yr Unol Daleithiau yn yr Iorddonen yn ystod y gwrthdaro a'r cyntaf i arwain at farwolaethau Americanaidd.

Mae’r rhai oedd yn gyfrifol wedi dweud bod eu hymosodiad yn ddial am gefnogaeth Washington i Israel yn y rhyfel yn Gaza, ac yn anelu at wthio lluoedd yr Unol Daleithiau allan o’r rhanbarth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.