Casnewydd yn colli wedi perfformiad dewr yn erbyn Manchester United
Fe wnaeth Casnewydd rhoi perfformiad llawn dewrder yn erbyn Manchester United yng Nghwpan FA ddydd Sul, ond colli o 4-2 oedd eu hanes ar ddiwedd gêm llawn cyffro yn Rodney Parade.
O flaen dorf o dros 9,000, fe wnaeth yr Alltudion roi perfformiad bydd yn aros yng nghof y cefnogwyr am flynyddoedd i ddod.
Roedd pethau yn edrych yn llwm ar y tîm cartref yn gynnar yn yr hanner cyntaf, wedi i gapten United, Bruno Fernandes rwydo ar ôl saith munud yn unig, i dawelu’r dorf frwdfrydig.
Fe ychwanegodd Kobbie Mainoo i fantais yr ymwelwyr chwe munud yn ddiweddarach gyda’i gôl gyntaf dros y clwb.
Fe wnaeth United fygwth y gôl Casnewydd rhagor wedi hynny, gyda’r golwr Nick Townsend yn gwneud arbediadau pwysig a’r capten Ryan Delaney yn atal un ergyd yn wych gyda’i gorff.
Taro nôl
Ond, daeth gobaith i Gasnewydd gyda moment o athrylith gan Bryn Morris.
Wrth i’r bêl ddod iddo y tu allan i’r cwrt cosbi yn y 36ain munud, fe darodd y chwaraewr canol cae hanner foli bwerus, a gafodd ei wyro i gongl waelod y gôl oddi ar y postyn – i danio’r dorf unwaith eto.
Llwyddodd Casnewydd i beidio ag ildio eto cyn hanner amser, ac fe dalodd hynny ar ei ganfed dwy funud yn unig wedi’r egwyl.
Inline Tweet: https://twitter.com/YrAlltudion/status/1751656130953023710?s=20
Ar ôl croesiad Adam Lewis o’r asgell chwith, llwyddodd Will Evans i gael ei hun o flaen Raphael Varane i gael blaen ei droed ar y bêl a’i gyfeirio’n gelfyd heibio’r golwr Altay Bayindir.
Roedd ffyddloniaid Rodney Parade yn uchel eu cloch unwaith eto wedi hynny, wrth wylio’u tîm yn brwydro yn ôl i unioni’r sgôr erbyn cewri’r Uwch Gynghrair.
Cau pen y mwdl
Ond daeth y foment dyngedfennol wedi 68 munud, ar ôl i ergyd gan Luke Shaw daro’r postyn a glanio’n garedig i’r asgellwr Antony, a wnaeth rwydo ar yr ail gynnig.
Cafodd y gêm ei hatal am ychydig funudau ar ôl 85 munud oherwydd argyfwng meddygol yn y stadiwm, cyn i'r gêm ail-gychwyn gyda Chasnewydd yn gwthio i ddod yn gyfartal unwaith eto.
Taniodd Will Evans ergyd cadarn o 25 llath wedi 90 munud, gyda'r bêl yn hedfan droedfedd y tu allan i’r postyn de. Roedd rhaid i Bayindir fod yn effro i arbed peniad gan Evans dau funud yn ddiweddarach yn ogystal.
Ond fe lwyddodd yr ymwelwyr i gau ben y mwdl ar y gêm wedi 94 munud, wrth i Rasmus Højlund fanteisio ar ddryswch yn y cwrt cosbi i sgubo'r bêl heibio Townsend.
Er gwaetha'r canlyniad, fe wnaeth y cefnogwyr cartref ddangos eu cymeradwyaeth gwresog i'r chwaraewyr wedi'r chwiban olaf, ar ôl i'w tîm rhoi braw a hanner i un o glybiau mwyaf y wlad.