Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps untro

29/01/2024

Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps untro

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn “bwrw ymlaen” â chynlluniau i wahardd fêps untro. 

Bydd y llywodraeth hefyd yn cefnogi deddfwriaeth newydd San Steffan i godi’r oedran ysmygu a chyfyngu ar werthiant fêps. 

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyflwyno Bil Tybaco a Fêps “cyn gynted â phosib” gan olygu y byddai’r oedran gwerthu ar gyfer pob math o gynnyrch tybaco yn cael ei newid fel na fydd modd i unrhyw un sydd wedi’i eni ar, neu ar ôl, 1 Ionawr 2009 allu prynu'r cynnyrch yn y dyfodol. 

Fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd fe fydd blasau teclynnau fêps, ei becynnau, a lle maen nhw’n cael eu gwerthu hefyd yn cael ei gyfyngu. 

A bydd achosion o dorri deddfwriaeth oedran gwerthu hefyd yn cael ei dargedu.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle AS: “Ysmygu yw’r prif beth sy’n achosi salwch ataliadwy a marwolaethau cyn amser yng Nghymru.  

“Er y gall fêps fod yn ddefnyddiol i rai ysmygwyr i'w helpu i roi'r gorau i ysmygu, mae data'n dangos bod nifer y plant sy'n fepio wedi treblu yn ystod y tair blynedd diwethaf. 

“Oherwydd eu bod yn cynnwys nicotin ac oherwydd nad yw’r niwed hirdymor y gallent ei achosi yn hysbys ar hyn o bryd, mae fêps yn peri risg o niwed i iechyd plant ynghyd â risg o ddibyniaeth.”

'Gwastraff'

Bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, bellach yn cyflwyno deddfwriaeth i fynd i’r afael â fêps untro – a hynny oherwydd rhesymau amgylcheddol ac iechyd. 

Mae 5,600 o bobl yn marw bob blwyddyn gan ganser sydd wedi’i achosi gan ysmygu. 

Ond mae teclynnau fêps hefyd yn “wastraffus iawn,” meddai Lynne Neagle, gyda bron i bum miliwn yn cael eu taflu i ffwrdd yn wythnosol. 

“Mae’r defnydd o fêps tafladwy hefyd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

“Ac yn ogystal â bod yn wastraffus iawn oherwydd eu cydrannau anodd eu hailgylchu, gwyddom fod plant yn defnyddio fêps tafladwy, a phan fyddant yn cael eu taflu gallant ryddhau cemegion gwenwynig i’r amgylchedd.

“Rydym am gymryd pob cam posibl i atal pobl ifanc rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf, i atal fepio ymhlith pobl ifanc a mynd i’r afael â’r effaith y mae fêps tafladwy yn ei chael ar yr amgylchedd,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.