Newyddion S4C

Dau fachgen yn eu harddegau wedi marw ar ôl ymosodiad trywanu ym Mryste

28/01/2024
Trywanu Bryste

Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi marw ym Mryste ar ôl ymosodiad trywanu gan grŵp o bobol wnaeth ffoi o’r lleoliad mewn car.

Ymosodwyd ar y ddau fachgen, oedd yn 16 oed a 15 oed, yn Ilminster Avenue, yn ardal Knowle West tua 23.20 ar nos Sadwrn, meddai Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.

Mae dyn 44 oed a bachgen 15 oed wedi’u harestio ac maen nhw yn y ddalfa, wedi i ymchwiliad llofruddiaeth gael ei lansio.

Mae cerbyd hefyd wedi cael ei atafaelu.

Cyrhaeddodd yr heddlu y lleoliad o fewn munudau a darparu cymorth cyntaf.

Cafodd y dioddefwyr eu cludo i Ysbyty Southmead ac Ysbyty Brenhinol Plant Bryste gydag anafiadau trywanu, lle bu’r ddau farw yn oriau mân fore Sul.

Nid yw'r bechgyn wedi'u henwi eto a bydd archwiliadau post-mortem yn cael eu cynnal maes o law.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Mark Runacres o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf: “Mae hwn yn ddigwyddiad hynod o ysgytwol a thrasig lle mae dau fachgen ifanc, oedd â’u bywydau cyfan o’u blaenau, wedi marw.

“Mae ein meddyliau gyda’u teuluoedd ar adeg sydd, heb os, yn un anodd iawn. Bydd swyddogion cyswllt teulu arbenigol nawr yn cael eu neilltuo i'r teuluoedd i roi cymorth iddynt a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am yr ymchwiliad.

“Mae cordon yn ei le ar Ilminster Avenue rhwng Newquay Road a Tavistock Road, a gall aelodau’r cyhoedd ddisgwyl gweld presenoldeb heddlu mawr wrth i chwiliadau fforensig ac ymholiadau eraill gael eu cynnal.”

Ychwanegodd fod sawl tyst wedi dod ymlaen ar ôl i swyddogion gynnal ymholiadau o dŷ i dŷ.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.