Elfyn Evans yn cychwyn y tymor drwy orffen yn drydydd yn Rali Monte-Carlo
Mae’r gyrrwr rali Elfyn Evans wedi gorffen yn drydedd yn ras agoriadol yn Nhymor Pencampwriaeth Rali’r Byd, y Rali Monte-Carlo.
Ar ôl arwain y ras dros ddau ddiwrnod gyntaf y rali, fe orffennodd Elfyn a’i gyd-yrrwr, Scott Martin, ar ris isaf y podiwm ar ôl cymal cyffro fore Sul.
Thierry Neuville o Wlad Belg enillodd y ras gydag amser o 3.09.30, 16 eiliad yn gyflymach na’r Ffrancwr Sebastien Ogier yn yr ail safle, a 45 eiliad yn gyflymach na Evans.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1751589982353985630?s=20
Ar ddiwedd y rali, dywedodd y gyrrwr o Ddolgellau wrth raglen Ralio+ ei fod yn ddechreuad ‘solid’ i’r tymor, er gwaetha’r siom o ildio’i safle ar flaen y ras.
“Mae di bod yn benwythnos iawn, ffordd solid i gychwyn y flwyddyn,” meddai.
“Ond wrth gwrs dim be oeddan ni rili eisiau o’r penwythnos. Fel ‘na mae hi ond alle hi fod yn waeth.”
Llun: X/@ElfynEvans