Newyddion S4C

Swyddfa'r Post: Problemau'n mynd 'ymhell tu hwnt' i'r sgandal Horizon

28/01/2024
Kemi Badenach

Mae Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach Llywodraeth y DU wedi dweud bod problemau ynghlwm â’r Swyddfa’r Post yn mynd “ymhell tu hwnt i’r sgandal Horizon.” 

Fe ddaw sylwadau Kemi Badenoch wedi i gadeirydd Swyddfa’r Post, Henry Staunton, gamu o’r neilltu ddydd Sadwrn, a hynny wedi iddyn nhw ddod i “gytundeb ar y cyd.” 

Wrth siarad ar raglen Sunday Morning with Trevor Phillips ar Sky News bore Sul, dywedodd Ms Badenoch yr oedd angen arweinyddiaeth newydd ar y Swyddfa’r Post er mwyn gallu “symud ymlaen” yn y dyfodol agos. 

Nid oedd Ms Badenoch yn fodlon cadarnhau a fydd rhagor o ymddiswyddiadau o fewn y sefydliad, gan ddweud bod angen iddi weithredu mewn modd "parchus a phriodol."

Fe ddaw ymadawiad Mr Staunton wrth i sgandal Swyddfa’r Post parhau i ddatblygu, ac fe ddaeth hynny dan sylw cyhoeddus yn ddiweddar yn dilyn drama ITV, Mr Bates vs The Post Office

Cafodd mwy na 700 o reolwyr cangen Swyddfa’r Post euogfarnau troseddol ar ôl i feddalwedd cyfrifo diffygiol Fujitsu o’r enw Horizon wneud iddi ymddangos fel petai arian ar goll o’u siopau.

Ond dywedodd Ms Badenoch nad y gyfres teledu oedd wrth wraidd yr holl weithredu.

“Roeddwn ni eisoes yn gweithredu… nid oedd y ddrama wedi ysgogi camau’r Llywodraeth,” meddai.

Dywedodd hefyd ei bod yn “bendant” yn disgwyl i gwmni Fujitsu talu iawndal i ddioddefwyr sgandal Horizon, a’i bod wedi ysgrifennu at gadeirydd y cwmni ond gan ei fod yn byw yn Japan, nad yw’r proses yn un uniongyrchol.

Penodi cadeirydd dros dro

Mae disgwyl i Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU benodi cadeirydd dros dro “yn fuan,” wedi ymadawiad Henry Staunton.

Roedd Mr Staunton wedi bod yn y rôl ers mis Rhagfyr 2022, wedi iddo dreulio naw mlynedd fel cadeirydd WH Smith.

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Ar alwad ffôn yn gynharach ddydd Sadwrn, roedd Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach a Henry Staunton, cadeirydd Swyddfa’r Post, wedi cytuno i ddilyn llwybr gwahanol.

“Fe fydd interim yn cael ei benodi’n fuan ac mi fydd proses recriwtio ar gyfer cadeirydd newydd yn cychwyn maes o law, yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus."

Nid oedd penderfyniad Mr Staunton i gamu o’r neilltu wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â sgandal y Swyddfa’r Post, ond roedd anghytuno rhyngddo ef a’r Llywodraeth ynglŷn â phwy oedd yr “ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd,” yn ôl rhai adroddiadau.

Y gred yw mai dyma'r achos mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes system gyfreithiol y DU. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.