Galw ar Yr Arolwg Ordnans i beidio â rhoi enwau Saesneg newydd ar fapiau o Eryri
Mae'r Arolwg Ordnans (OS) wedi’i feirniadu’n hallt wedi iddo greu enwau iaith Saesneg o’r newydd ar gyfer leoliadau ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r sefydliad, sef asiantaeth mapio Llywodraeth y DU, wedi rhoi enwau newydd ar sawl leoliad yn Eryri ar fapiau swyddogol, gan gynnwys enwau y mae ymwelwyr a dringwyr di-gymraeg yn ei alw.
Mae enghreifftiau o’r enwau iaith Saesneg yn cynnwys ‘The Mushroom Garden’, sef Coed Carreg y Fran; ‘Senior’s Ridge’ ar gyfer Crib y Clogwyn Du; ‘Heather Terrace’ i gynrychioli Y Llwybr Gwregys ac ‘The Horns’ ar gyfer rhan o'r Wyddfa.
Mae’r newidiadau bellach i’w gweld ar wefan yr OS, ond mae sawl un wedi galw ar yr asiantaeth i gael gwared ar yr enwau Saesneg “dychmygol.”
Gwrthwynebiad
Yn drigolyn lleol o Nant Peris, mae Eilian Williams yn arwain yr ymdrech yn ei erbyn.
Fe ddechreuodd Mr Williams dudalen Facebook, Eryri Wen, ychydig o flynyddoedd yn ôl er mwyn mynd i’r afael ag enwau Saesneg ar lefydd yng Nghymru.
Mae bellach wedi gwahodd yr OS i ymuno’r tudalen er mwyn “dysgu” am hanes cywir enwau iaith Gymraeg o gwmpas ei ardal leol, megis Eryri, Yr Wyddfa a’r Glyderau rhwng Beddgelert, Waunfawr, Bethesda, Capel Curig a Dolwyddelan, meddai.
Mewn llythyr ysgrifennodd at yr asiantaeth, dywedodd: “Dwi ‘di synnu bod gan y map premiwm ar-lein gymaint o enwau Saesneg o’r newydd.
“Doedd yr enwau yma erioed wedi cael ei ddefnyddio, cyn i’r diwydiant antur ddechrau cynhyrchu llyfrau a gwefannau gyda’u henwau dyfeisiedig eu hunain ar gyfer creigiau mawr… yn ogystal â’u llwybrau dringo,” meddai.
“Mae croeso i chi ymuno ag Eryri Wen i ddysgu’r enwau iaith Gymraeg cywir ar lefydd, a sut yr wyf wedi’u casglu,” ychwanegodd.
Mae ymgyrch Mr Williams yn parhau i ddenu ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mewn neges ar X (Twitter gynt), dywedodd yr awdur a’r darlledwr Myfanwy Alexander ei bod wedi ei drysu gan benderfyniad yr OS.
“Rwy’n stryglo i ddeall pam mae’r OS yn ystyried rhoi enwau dychmygol newydd ar fapiau Eryri.
“Mae gan Gribyn Facet, Heather Terrace a Far South Peak enwau’n barod – sef Clogwyn Tarw, Y Llwybr Gwregys a Bryn Tryfan.
“Does dim hawl gan ymwelwyr yn eu cotiau Cagoule i ail-enwi ein tir.”
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda'r Arolwg Ordnans am ymateb.