Newyddion S4C

Traitors: A lwyddodd y Cymro Andrew Jenkins i ennill y £100,000?

27/01/2024
The Traitors

Mae ail gyfres o’r rhaglen teledu boblogaidd The Traitors wedi dirwyn i ben, ond a lwyddodd Andrew Jenkins i ennill y £100,000?

Roedd Andrew Jenkins o Donysguboriau, ger Llantrisant, yn chwarae rôl y bradwr yn y gyfres, a hynny ochr yn ochr â Harry Clark o Slough, yn Berkshire. 

Ond ni lwyddodd y Cymro i gipio’r arian nos Wener, ac fe ddaeth yn pedwerydd allan o’r pump a wnaeth gyrraedd y ffeinal. 

Image
Andrew Jenkins
Andrew Jenkins o Lantrisant

Harry Clark, ei gyd-fradwr, cafodd ei goroni'r enillydd y gyfres BBC, sy'n cael ei chyflwyno gan Claudia Winkleman, gan gipio’r wobr derfynol o £95,150.

Cafodd y gŵr ifanc ei enwi’n fradwr ar ddechrau’r gyfres, ag yntau wedi llwyddo i fradychu ei gyd-chwaraewyr i gyd.

Roedd Mr Clark eisoes wedi dweud y byddai’n “100% yn hapus” pe bai’n fradwr yn y gyfres, gan ddweud yr oedd yn “ysu i wneud.”

Image
Harry Clark
Harry Clark yw enillydd ail gyfres The Traitors

Daeth yn ffrindiau agos gyda Mollie Pearce trwy gydol y gyfres, ac mi oedd hi yn ei dagrau wedi iddi golli allan ar yr arian pan gafodd wybod bod Mr Clark yn fradwr. 

Roedd y ddau wedi pleidleisio i gael gwared â Jaz Singh, oedd yn ‘ffyddlon’, gan arwain at Harry Clark yn ennill y gyfres a’r arian i gyd. 

Daeth y milfeddyg, Evie Morrison, yn bumed yn y gyfres wedi iddi gael ei hanfon adre’ gan ei chyd-chwaraewyr ar ddechrau’r rhaglen olaf.

Mae'r BBC eisoes wedi dweud fod trydedd gyfres o'r rhaglen wedi'i gomisiynu, ac yn gwahodd darpar ymgeiswyr i roi eu henwau ymlaen i gymryd rhan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.