Newyddion S4C

Donald Trump i dalu dros $80 miliwn mewn iawndal am ddifenwi colofnydd

27/01/2024
Donald Trump

Mae rheithgor yn Efrog Newydd wedi penderfynu y dylai Donald Trump dalu dros $80 miliwn wedi iddo ddifenwi’r colofnydd E Jean Carroll yn 2019, tra oedd yn dal i fod Arlywydd yr Unol Daleithiau. 

Bydd rhaid i Trump dalu $18.3 miliwn o iawndal cydadferol (compensatory damages) a $65 miliwn o iawndal cosbol (punitive damages), gan dalu cyfanswm o $83.3 miliwn (£65 miliwn). 

Mae Trump eisoes wedi ei gael yn euog o ddifenwi Ms Carroll ag am gyflawni trosedd aflonyddu rhyw yn ei herbyn yn yr 1990au, a hynny mewn achos sifil y llynedd. 

Mae’r cyn-arlywydd bellach wedi dweud ei fod am apelio yn erbyn penderfyniad y rheithgor, gan ei alw’n “hollol chwerthinllyd.”

Gofynnwyd y rheithgor i benderfynu ar faint o iawndal, os unrhyw o gwbl, y dylai Ms Carroll ei dderbyn. 

Cafodd swm yr iawndal cydadferol ei benderfynu wrth ystyried y niwed mae sylwadau Donald Trump wedi gwneud i les meddyliol ac enw da E Jean Carroll, tra penderfynwyd ar swm yr iawndal cosbol gyda’r bwriad o atal Trump rhag siarad yn erbyn y colofnydd yn gyhoeddus eto. 

Fe ddaeth y rheithgor o saith dyn a dwy fenyw i benderfyniad mewn llai na thair awr, brynhawn ddydd Gwener. 

Ras Arlywyddol

Mae disgwyl i Donald Trump fod yr ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn ras Arlywyddol yr Unol Daleithiau, wrth i’r etholiad arlywyddol gael ei gynnal ym mis Tachwedd. 

Cymerodd cam arall tuag at sicrhau enwebiad y blaid wedi iddo guro Nikki Haley yn y bleidlais yn nhalaith New Hampshire yn gynharach yr wythnos. 

Mae Trump yn wynebu pedwar achos troseddol arall, am gyfanswm o 91 o droseddau. 

Fe yw’r arlywydd cyntaf yn hanes yr UDA i gael ei ddedfrydu, ond mae wedi pledio’n ddieuog neu wedi gwadu ar bob cyfrif.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.