'Y Gêm Fwyaf': Casnewydd yn croesawu Man Utd yng Nghwpan yr FA
Bydd Casnewydd yn herio Manchester United ddydd Sul wrth iddyn nhw geisio cyrraedd pumed rownd Cwpan yr FA.
Bydd Rodney Parade yn orlawn wedi i docynnau gwerthu allan o fewn munudau iddynt fynd ar werth yn gynharach yr wythnos hon.
Manchester United, sydd wedi ennill y gystadleuaeth ar 12 achlysur, bydd yn ceisio atal Casnewydd rhag cyrraedd y pumed rownd am y drydedd tro yn eu hanes.
Mae'r Alltudion yn 16eg yn Adran Dau ar hyn o bryd, ac fe hawliodd eu lle yn y bedwaredd rownd gyda buddugoliaeth 3-1 dros Eastleigh ar yr ail gynnig.
Mae United yn wythfed yn yr Uwch Gynghrair ac enillon nhw yn erbyn Wigan Athletic yn y drydedd rownd.
Fe wnaeth Casnewydd arwyddo cyn-chwaraewr dan 21 Cymru, Luke Jephcott ddydd Mercher, a fydd yn ategu at opsiynau Graham Coughlan yn y safleoedd ymosod.
Bydd prif sgoriwr y clwb Will Evans yn gobeithio ychwanegu at eu goliau'r tymor hwn, ond ni fydd yn hawdd yn erbyn un o dimoedd mwyaf ym myd pêl-droed.
'Gwefr'
Bydd chwaraewr canol cae Casnewydd, Scot Bennett yn chwarae ei 350fed gêm i'r clwb.
Yn gefnogwr brwd Manchester United, mae'n edrych ymlaen at yr ornest.
“I mi, dyma’r gêm fwyaf y byddai wedi chwarae ynddi yn fy amser yma. Cefnogais Manchester United fel plentyn ac maen nhw'n yn un o dimau mwyaf y byd.
"Roedd cael herio Man City a Tottenham o’r blaen yn enfawr i’r clwb, a hyd yn oed Caerlŷr hefyd, ond dwi’n meddwl bod hwn yn gam i fyny.
“Mae hi wedi bod yn wythnos gadarnhaol iawn yn dilyn y canlyniadau diweddar. Fe aethon ni i mewn i gêm Eastleigh yn chwilio am gyfres o ganlyniadau positif ac fe wnaethon ni lwyddo i wneud hynny, felly gallwch chi weld yr wythnos hon bod yna wefr o gwmpas y grŵp cyn dydd Sul.
“Fe allwn ni bendant gymryd llawer o hyder o’r gemau diwethaf.
“Dydyn ni ddim yn chwarae ddydd Sul dim ond i gymryd rhan, rydyn ni'n mynd allan i geisio ennill.
“Rydyn ni eisiau perfformio ac rydyn ni eisiau parhau â’n rhediad da.”
Caru'r cwpan
Mae gan Gasnewydd hanes llewyrchus yng Nghwpan yr FA ac wedi curo nifer o dimoedd mawr yn y gorffennol.
Roedd eu rhediad gorau yn nhymor 2018/19 pan wnaethon nhw gyrraedd y bumed rownd.
Dim ond ddwywaith y mae'r clwb wedi gwneud hynny yn eu hanes, a'r tro blaenorol oedd yn 1950, gan golli i Portsmouth o flaen torf o 48,000 - oedd yn record ar y pryd yn stadiwm Fratton Park.
Yn nhymor 2018/19 fe wnaethon nhw guro Wrecsam 4-0 yn Rodney Parade yn dilyn gêm ddi-sgôr ar y Cae Ras.
Eu gwobr oedd gêm gartref yn erbyn Caerlŷr yn y drydedd rownd.
Cafodd seddi dros dro eu hychwanegu yn y stadiwm fel bod mwy yn gallu eu gwylio, ac roedd goliau gan Jamille Matt a chic o'r smotyn gan Padraig Amond yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol i'r clwb.
Middlesborough oedd y gwrthwynebwyr yn y rownd nesaf ac yn dilyn gôl munud olaf gan Matthew Dolan i unioni'r sgôr, roedd Casnewydd gartref yn yr ail gymal i geisio sicrhau buddugoliaeth a'u lle yn y rownd nesaf.
2-0 oedd y sgôr yn y gêm honno, a'r wobr oedd gêm yn erbyn pencampwyr Lloegr, Manchester City yn Rodney Parade ym mis Chwefror.
Yn anffodus i'r Alltudion, fe ddaeth eu rhediad yn y gwpan i ben wedi colled o 4-1 yn erbyn y tîm a wnaeth ennill y gystadleuaeth y flwyddyn honno.
Fe wnaeth Casnewydd gofnodi rhediad i'w gofio'r flwyddyn cynt, gyda dau ganlyniad campus yn erbyn timau o gynghreiriau uwch.
Yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Walsall a Chaergrawnt, Leeds oedd y gwrthwynebwyr yn y drydedd rownd yn Rodney Parade.
Wedi gôl gynnar gan Leeds fe wnaeth Casnewydd unioni'r sgôr wedi 76 munud cyn i'w hymosodwr Shawn McCoulsky benio'r bêl i gefn y rhwyd gyda munud yn unig i fynd.
Tottenham Hotspur oedd y tîm ddaeth i Rodney Parade ar 27 Ionawr, a'r seddi ychwanegol yno eto fel bod y dorf yn fwy na'r arfer.
Padraig Amond peniodd Casnewydd ar y blaen wedi 38 munud, ac roedd yn rhaid i Tottenham aros tan 82 munud o chwarae cyn i Harry Kane unioni'r sgôr a sicrhau bod ail gêm yn cael ei chwarae yn Wembley, cartref Spurs ar y pryd.
Fe ddaeth rhediad yr Alltudion i ben yno, ond roedd eu cefnogwyr wedi mwynhau gweld eu clwb yn brwydro gyda mawrion pêl-droed Lloegr yng nghartref ysbrydol y gystadleuaeth.
Ai Manchester United fydd y tîm nesaf i golli yn erbyn Casnewydd yng Nghwpan yr FA?
Llun: Asiantaeth Huw Evans