Newyddion S4C

'Her anoddaf erioed' Cymro ifanc a enillodd ultra marathon cyntaf Ynysoedd y Falklands

27/01/2024
Kyle Turner

Mae Cymro ifanc yn dweud iddo gyflawni ei "her anoddaf erioed" wedi iddo ennill ultra marathon cyntaf Ynysoedd y Falklands.

Er mwyn cyflawni'r gamp bu'n rhaid i Kyle Turner, sy'n 24 oed, redeg 6.7km pob awr nes mai fo oedd yr unig berson ar ôl wedi 11 lap.

Rhedodd y dyn o Abertawe 73km mewn chwe awr a 22 munud mewn tywydd a newidiodd o fod yn heulog, i law ac yna gwynt.

"Dw i wedi arfer rhedeg pellter penodol ar gyflymder targed i gyflawni amser, ond roedd y syniad o orfod rhedeg, heb wybod pa mor bell y byddwn i'n rhedeg yn rhyfedd, ac yn ei wneud yn llawer mwy o her feddyliol nag un corfforol i mi fy hun," meddai wrth Newyddion S4C.

"Peidiwch â meddwl bod hi ddim yn anodd yn gorfforol, roedd yn bendant yn dal yn brifo'r coesau. Roedd y tywydd yn amrywiol iawn gyda gwyntoedd cryfion a llawer iawn o law, yn gymysg ac ambell ysbaid heulog iawn.

"Unwaith roeddwn i'n rhedeg roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus iawn. Fe wnes i dorri'r ras i lawr darn wrth ddarn a cheisio anghofio'r ffaith nad oeddwn i'n gwybod faint ymhellach roedd rhaid i mi redeg. 

"Y cyfnodau adfer oedd y rhannau anoddaf mewn gwirionedd, er mawr syndod. Gorfod penderfynu faint, a beth i'w fwyta a'i yfed, heb wybod a ddylen i barhau i symud neu eistedd i lawr a cheisio adfer."

Image
Kyle Turner
Pencampwr: Kyle Turner yn wen o glust i glust yn dilyn ei fuddugoliaeth. Llun: Kyle Turner

'Cystadleuol'

Pan orffennodd Mr Turner ei ddegfed lap, sylweddolodd mai ef yn unig oedd yn bwriadu rhedeg y lap nesaf.

Roedd yn golygu bod rhaid iddo gwblhau'r lap nesaf er mwyn ennill y ras, ac fe aeth ymlaen i redeg ei lap cyflymaf yn ystod yr her.

"Rwy’n berson cystadleuol iawn felly ennill yw’r teimlad gorau, ond roedd hwn yn deimlad ychydig yn rhyfedd o'i gymharu â'r arfer," meddai.

"Fel arfer rydych chi'n rasio yn erbyn rhywun ac yn rhoi'r cyfan i groesi'r llinell derfyn yn gyntaf, ond pan fethodd y rhedwyr yn yr 2il a'r 3ydd safle gwblhau lap 10, roeddwn i'n gwybod mai'r cyfan oedd rhaid i mi ei wneud oedd rhedeg un lap arall i ennill. 

"Rwy'n teimlo mai'r rheswm pam y rhedais i'r lap olaf hon y cyflymaf yw, nid oherwydd fy mod eisiau gwneud hynny ond oherwydd bod fy nghorff yn barod i orffwys ac ymlacio!

"Roedd hi wedi bod yn ddiwrnod hir, ychydig o dan 11 awr o waith.

"Roedd y gefnogaeth gan y bobl leol yn anhygoel ac annisgwyl, gyda darlledwyr lleol ar y diwedd yn gofyn am gyfweliadau… profiad newydd sbon i mi."

Image
Kyle Turner
Chwifio'r faner dros Gymru: Kyle Turner cyn y ras ar Ynysoedd y Falklands. Llun: Kyle Turner

Trawsnewid

Mae Kyle Turner yn gweithio i'r Awyrlu Brenhinol ers 2018, ac os na fyddai wedi ymuno mae'n annhebygol iawn y byddai wedi dechrau rhedeg.

Yn syndod iddo roedd ei gyd-weithiwr wedi ei gofrestru ar gyfer London Landmarks Half Marathon, ac mae wedi cystadlu yn gyson ers hynny.

"Ar ôl y ras honno, syrthiais mewn cariad â'r gamp a dechrau gweld cynnydd cyflym gyda hyfforddiant cyson," meddai.

"Dechreuais ar farathonau a dyna'r prif bellter rwy'n ei redeg bellach. Tra dwi ar Ynysoedd y Falkland gyda’r RAF roeddwn i’n bwriadu cystadlu ym Marathon Stanley, ond wrth gyrraedd sylwais ar boster ar gyfer yr Falklands Backyard Ultra.

"Roedd y geiriau ‘Last Man Standing’ wedi’u hysgrifennu mewn print trwm arno, a ysgogodd fy niddordeb yn syth. Doeddwn i erioed wedi rhedeg mwy na marathon o’r blaen felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n her berffaith i mi weld pa mor bell oeddwn i'n gallu fy ngwthio fy hun yn feddyliol."

Image
Kyle Turner
Roedd Kyle wedi gwynebu pob math o dywydd yn ystod yr her. Llun: Kyle Turner

Bydd Kyle Turner yn cystadlu mewn dwy ras arall tra ei fod wedi ei leoli ar Ynysoedd y Falklands.

Yn dilyn hynny bydd yn dychwelyd i'r DU ac yn anelu at ennill marathonau.

"Cyn i mi ddychwelyd o'r Falklands ddiwedd mis Mawrth, mae gen i ddwy ras arall yn y dyddiadur allan yma," meddai.

"Yn gyntaf, Hanner Marathon Cape Pembroke, a byddaf yn ei ddefnyddio fel rhediad ar gyfer ymarfer. 

"Yna mae gen i Farathon Stanley tua diwedd mis Mawrth, sef marathon mwyaf deheuol y byd.

"Ar ôl dychwelyd i'r DU byddaf yn dychwelyd i London Landmarks Half Marathon, lle y gorffennais yn y 13eg safle'r llynedd.

"Ac yn olaf, fy mhrif ras darged, Marathon Llundain, ddiwedd mis Ebrill, lle byddaf yn gobeithio rhedeg tua dwy awr 30 munud."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.