Newyddion S4C

Jürgen Klopp i adael ei swydd fel rheolwr Lerpwl

26/01/2024
Klopp

Mae rheolwr Lerpwl, Jürgen Klopp wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd ar ddiwedd y tymor presennol.

Mae'r Almaenwr wedi treulio naw tymor gyda'r clwb sy'n chwarae eu gemau cartref yn Anfield, ers ymuno ym mis Hydref 2015.

Wrth i'r clwb gyhoeddi'r newyddion ar gyfryngau cymdeithasol fore Gwener, dywedodd Klopp  mai'r rheswm ei fod yn gadael yw i gymryd "seibiant" ac i "fyw bywyd arferol".

Dywedodd ei fod eisoes wedi rhannu'r newyddion gyda'r clwb fis Tachwedd y llynedd.

“Gallaf ddeall ei fod yn sioc i lawer o bobl ar y foment hon, pan fyddwch yn clywed y newydd am y tro cyntaf," meddai.

"Ond yn amlwg gallaf egluro - neu o leiaf yn ceisio ei egluro.

"Rwy'n caru popeth am y clwb hwn, rwy'n caru popeth am y ddinas, rwy'n caru popeth am ein cefnogwyr, rwy'n caru'r tîm, rwy'n caru'r staff. Rwy'n caru popeth. 

"Fy mod yn dal i wneud y penderfyniad hwn ar sail hynny, yn dangos i chi fy mod yn argyhoeddedig mai dyma'r un sy'n rhaid i mi ei gymryd.

"Dwi wedi penderfynu hyn am fy mod yn rhedeg allan o egni. Nid oes gennyf unrhyw broblem ar hyn o bryd, yn amlwg. Ond dwi'n gwybod na allaf wneud y swydd dro ar ôl tro ac eto ac eto.

“Ar ôl yr holl amser a dreulion ni gyda’n gilydd ac ar ôl yr holl bethau aethon ni drwy’n gilydd, tyfodd y parch tuag atoch chi, tyfodd y cariad tuag atoch chi a’r peth lleiaf sy’n ddyledus i chi yw’r gwir – a dyna’r gwirionedd."

Mae Klopp wedi ennill yr Uwch Gynghrair, Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Cwpan FA Lloegr, Cwpan Carabao a Chwpan Clybiau'r Byd FIFA yn ystod ei gyfnod gyda'r clwb.

Mae'r cochion ar frig tabl yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd ac wedi ennill eu lle yn rownd derfynol Cwpan Carabao yn Wembley.

Llun: Wotchit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.