Newyddion S4C

'Enaid hardd a dewr': Dawnswraig ifanc wedi marw o ganlyniad i alergedd cnau

26/01/2024
Órla Baxendale

Mae dawnswraig ballet dalentog 25 oed o Brydain wedi marw yn yr UDA o ganlyniad i'w halergedd cnau.

Fe wnaeth Órla Baxendale farw o sioc anaffylactig ar ôl bwyta bisged oedd wedi ei cham-labelu mewn digwyddiad ar 11 Ionawr.

Roedd wedi bwyta bisged oedd wedi ei dosbarthu gan archfarchnad Stew Leonard's ac yn cael ei weini mewn digwyddiad yn Conneticut.

Nid oedd y label ar y fisged yn nodi ei bod yn cynnwys cnau mwnci.

Roedd Ms Baxendale wedi symud i Efrog Newydd i ddilyn gyrfa ddawnsio ers 2018.

Dywedodd datgniad ar ran ei theulu gafodd ei ryddhau drwy gyfreithwyr fod y teulu wedi eu dryllio gan y farwolaeth:

"Roedd Órla yn wirioneddol yn unigryw. Roedd hi'n enaid hardd, dewr a oedd bob amser yn credu y byddai'n cyflawni ei breuddwydion mwyaf - a dyna'n union a wnaeth. 

"Dawnsiodd ei ffordd ar draws y byd a byw bywyd i'r eithaf bob dydd."

Ychwanegodd y teulu: "Ni fyddwn byth yn gwella o'r boen o'i cholli mor fuan, ar anterth ei bywyd. Ond rydym hefyd mor falch o'i galw'n ferch a chwaer i ni, ac o fod wedi cael y fraint o rannu 25 mlynedd gyda'r person hynod o arbennig yma.

“Mae’n annealladwy y gall alergeddau gymryd bywydau yn 2024, ac rydym am annog pawb i addysgu’ch hunain a’r rhai o’ch cwmpas am anaffylacsis, sut i ddefnyddio EpiPens a’r arwyddion cynnar ar gyfer adweithiau alergaidd difrifol.

"Rydym wedi cael ein syfrdanu gan y cannoedd o negeseuon sydd wedi dod o bob rhan o'r byd, gan yr holl bobl oedd yn caru Órla ac na fydd byth yn anghofio cyfarfod â hi na'i gweld yn dawnsio. 

"Y gwir yw bod Órla wedi cael mwy allan o fywyd mewn 25 mlynedd nag y mae'r rhan fwyaf yn ei wneud mewn oes, a bydd hi nawr yn byw yn ein calonnau i gyd am byth."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.