Newyddion S4C

Ofnau y gallai cynllun amaeth newydd fod yn 'ddiwedd ar y Gymraeg a miloedd o swyddi'

Ofnau y gallai cynllun amaeth newydd fod yn 'ddiwedd ar y Gymraeg a miloedd o swyddi'

Mae cynllun ffermio arfaethedig gan Lywodraeth Cymru wedi codi gwrychyn amaethwyr ac undebau ffermio, sy'n dadlau y byddai'n golygu colli 5,500 o swyddi ag arwain at "ddiwedd yr iaith Gymraeg".

Fe all y Cynllun Ffermio Cynaliadwy weld miloedd o swyddi yn cael eu colli yn ogystal â cholli dros 120,000 o dda byw, yn ôl asesiad effaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd dadansoddiad o effeithiau economaidd posibl y cynllun, fydd yn dod i rym yn 2025, gan ADAS, Pareto Consulting SRUC a Choleg Prifysgol Dulyn. 

Roedd yn seiliedig ar gynigion amlinellol blaenorol 2022 ar gyfer y cynllun, gyda’r bwriad o ddisodli hen daliadau cymorth amaethyddol tra’n symud y ffocws tuag at welliannau amgylcheddol.

Dywed Llywodraeth Cymru fod yr asesiad economaidd wedi helpu i lunio eu hymgynghoriad presennol.

'Diwedd y Gymraeg'

Mae'r ffermwr a'r darlledwr o Sir Conwy, Gareth Wyn Jones wedi dweud byddai'r cynllun yn arwain at "ddiwedd yr iaith Gymraeg" a chefn gwlad Cymru yn troi i mewn i "ghost town."

Cynhaliwyd dadansoddiad o effeithiau economaidd posibl y cynllun, oedd yn seiliedig ar gynigion amlinellol blaenorol yn 2022.

Mae'r gwaith modelu hwn yn cyfleu darlun llwm i ffermio yng Nghymru. 

Mae'n rhagweld y bydd y sector yn colli £199m mewn incwm busnesau fferm, gan arwain at ergyd o £125.3m ar allbwn cyffredinol. Byddai niferoedd da byw Cymru yn gostwng 10.8% ac mae'n bosib y byddai 11% o swyddi ar ffermydd Cymru'n cael eu colli.

Mae Llywydd NFU Cymru, Aled Jones wedi rhannu pryderon am effeithiau'r cynllun ar ffermio yng Nghymru.

Dywedodd bod y data sydd wedi ei gasglu'n mynd i synnu nifer mewn cymunedau gwledig.

"Mae’n destun pryder mawr darllen bod asesiad effaith Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos canlyniadau mor niweidiol i’r diwydiant," meddai.

"Mae gwendidau sylfaenol hefyd yn yr adroddiad, yn enwedig nad yw’r effaith ehangach ar fusnesau gwledig a lefelau cyflogaeth dilynol wedi’u modelu. Mor ddiweddar â mis Gorffennaf y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr allforion bwyd a diod mwyaf erioed o Gymru. 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y camau gweithredu cyffredinol yn gyraeddadwy i bawb, ond mae ffermwyr yn parhau i ddweud wrthym y byddant yn ei chael hi'n anodd bod yn gynhyrchiol ac yn broffidiol os byddant yn ymuno â'r cynllun."

Mater pryderus i nifer o ffermwyr yw gofyniad gan y cynllun i blannu coed ar 10% o'u tir, ac felly colli tir cynhyrchiol. 

Mae arweinwyr undeb yn honni y bydd hyn yn atal llawer o ffermwyr rhag ymuno â'r cynllun, er bod ganddynt tan 2030 i gydymffurfio.

'Barn'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr asesiad economaidd wedi helpu i lunio eu hymgynghoriad fel bod materion a godwyd yn gallu cael eu trafod. 

Ychwanegodd llefarydd: "Nid yw'n asesiad o'r ymgynghoriad presennol. Mae manylion llawn ein cynigion yn yr ymgynghoriad a byddwn yn annog pobl i gymryd rhan a rhoi eu barn i ni."

Yn flaenorol, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cynllun yn “cadw ffermwyr i weithio ar y tir” tra’n mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. 

Nod y cynllun yw "helpu ffermwyr i ddod yn fwy effeithlon ac ymatebol i ofynion defnyddwyr" fel bod modd iddynt “gystadlu mewn economi byd-eang sy’n datgarboneiddio”.

Mae ymgynghoriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn cau ddydd Iau 7 Mawrth.

Mae NFU Cymru wedi annog aelodau i leisio eu pryderon cyn hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.