Cwest Llandudoch: 'Dim modd darganfod beth oedd achos y tân'
Cwest Llandudoch: 'Dim modd darganfod beth oedd achos y tân'
Mae cwest yn Hwlffordd wedi clywed nad oes modd darganfod beth oedd achos tân mewn tŷ yn Sir Benfro lle bu farw gŵr a gwraig.
Bu farw David a Margaret Edwards, a oedd yn 60 a 55 oed, yn dilyn tân mewn tŷ yn Llandudoch ym mis Rhagfyr 2022.
Roedd y ddau wedi bod yn briod am 18 mlynedd, a Mr Edwards oedd prif ofalwr ei wraig, oedd ag anabledd.
Clywodd y cwest bod diffoddwyr tân wedi cael eu galw i’r tŷ 01:15 ar 11 Rhagfyr 2022 ond oherwydd amodau rhewllyd, roedd eu hymateb rhywfaint yn arafach na’r arfer.
Erbyn iddyn nhw gyrraedd, roedd y tŷ yn wenfflam, gyda’r tân yn dod allan o’r to.
Cafodd corff menyw ei ddarganfod mewn cadair ar lawr gwaelod y tŷ.
Wedi i’r tân gael ei ddiffodd, cafodd corff dyn ei ddarganfod ar wely ar y llawr gwaelod ychydig oriau’n ddiweddarach.
Y gred yw bod y gwely wedi syrthio o’r llawr cyntaf, wrth i’r llawr a tho’r adeilad ddisgyn.
Yn ôl yr ymchwilydd tân, Stephen Rowlands, fe wnaethon nhw archwilio sawl offer electronig yn y tŷ ond oherwydd maint y difrod , doedd dim modd darganfod beth oedd achos y tân.
Dangosodd archwiliad post-mortem bod Mr Edwards wedi marw o losgiadau. Gwenwyn carbon monocsid oedd achos marwolaeth ei wraig.
Daeth y Crwner i’r casgliad mai damwain oedd achos marwolaeth y pâr priod.