Cwis Bob Dydd yn dychwelyd am dymor arall
Fe fydd Cwis Bob Dydd yn dychwelyd am dymor arall ddydd Llun.
Dyma'r trydydd tymor, wedi dau dymor llwyddiannus iawn a welodd miloedd o bobl ar draws Cymru yn mynd benben yn erbyn ei gilydd yn ddyddiol i geisio ateb deg cwestiwn.
Y nôd yw ateb y deg cwestiwn bob dydd i gyd yn gywir, mor gyflym â phosib, er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd.
Inline Tweet: https://twitter.com/CwisBobDyddS4C/status/1749770560794435718?s=20
Mae'r sgôr yn gyfuniad o'r atebion cywir a pha mor gyflym mae'r cystadleuydd wedi eu hateb, ac mae'r cwestiynau'n wahanol i bawb.
Bob tro mae rhywun yn cystadlu ar y cwis, maen nhw'n derbyn tocyn am gyfle i ennill prif wobr y tymor.
Michaela Carrington enillodd prif wobr y cwis y tymor diwethaf.
Fe enillodd Ms Carrington ddefnydd o gar melyn Cwis Bob Dydd am flwyddyn.
Inline Tweet: https://twitter.com/CwisBobDyddS4C/status/1724101504364061090?s=20
Roedd cyfanswm o 15,027 o chwaraewyr y tymor diwethaf, gyda 847,009 o gemau yn cael eu chwarae.
O gynnwys y tymor cyntaf hefyd, mae 1,050,000 o gemau Cwis Bob Dydd wedi cael eu chwarae hyd yma.