Newyddion S4C

Disgyblion o Rondda Cynon Taf yn hel eu pac i fynd ar daith gyfnewid i Guadeloupe

25/01/2024

Disgyblion o Rondda Cynon Taf yn hel eu pac i fynd ar daith gyfnewid i Guadeloupe

Mae disgyblion Ysgol Gyfun Llanhari yn mwynhau'r her o ddysgu iaith newydd. Maen nhw hefyd yn paratoi am antur. Codi pac, gadael y stafell ddosbarth a theithio 4,000 o filltiroedd i Guadeloupe yn y Caribî ar gyfer taith gyfnewid.

Dw i'n methu aros oherwydd dw i'n mynd i le newydd dw i heb fynd o'r blaen a dw i'n gallu gweld pobl dw i 'di bod yn siarad i ers roedden i mewn blwyddyn 9. Rydyn ni'n mynd i lawer o amgueddfeydd a mynd i gymryd rhan mewn y carnifal Mardi Gras.

Dw i'n mwynhau gweld pobl newydd a cwrdd â phobl newydd a gweld y diwylliannau gwahanol sut maen nhw'n profi bywyd.

Ydi, mae diddordeb y disgyblion yma yn Ysgol Llanhari'n amlwg ond nid felly ym mhob ysgol. Ychydig dros 3,400 o ddisgyblion nath ddewis iaith ryngwladol fel pwnc TGAU yma yng Nghymru y llynedd. Mae hynny'n cymharu â thros 9,000 yn 2013.

Gostyngiad felly o dros 60% mewn degawd. I un cyn-athro Ffrangeg fu'n ffigwr blaenllaw ym myd addysg mae'r gostyngiad yn peri pryder mawr.

Mae'r gostyngiad erbyn hyn yn arswydus. Does braidd neb yng Nghymru ragor yn gwneud ieithoedd i TGAU, heb son am safon uwch. Mae hi'n anodd meddwl bod ni wedi gallu cyrraedd y sefyllfa yna. Dw i'n meddwl bod hi'n drychinebus i'r wlad yn economaidd ond hefyd i'r disgyblion yn ddiwylliannol.

Mae diffyg mawr yn eu diwylliant bod dim iaith dramor fodern gyda nhw. 'Nol yn y stafell ddosbarth ac mae'r athrawes sydd wedi trefnu'r daith i Guadeloupe yn rhannu'r un pryderon.

Mae o'n bryder mawr. 'Dan ni yn ffodus iawn yn Ysgol Llanhari bod y niferoedd yn gyson fan yma ond mae hynny oherwydd egni'r adran ei hun. Mae angen i'r llywodraeth ymyrryd yn y niferoedd yma a mae angen mwy o athrawon ieithoedd rhyngwladol yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg arnom ni yng Nghymru, heb os.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cydnabod bod gostyngiad wedi bod yn nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd rhyngwladol ar draws y Deyrnas Unedig.

Fe ychwanegon nhw bod amrywiol gynlluniau ar y gweill yma i geisio cynyddu'r niferoedd i ehangu gorwelion a chodi dyheadau dysgwyr.

Mae'r plant wrthi'n pacio ac yn y stafell ddosbarth mae'r paratoadau munud olaf cyn y daith yn mynd yn eu blaen.

Sicrhau bod mwy yn manteisio ar y cyfle i ddysgu Ffrangeg yw'r nod a be well na gwneud hynny yn y Caribî?

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.