Newyddion S4C

Diffyg tai fforddiadwy mewn cymunedau arfordirol 'yn gyrru pobl ifanc i ffwrdd'

25/01/2024

Diffyg tai fforddiadwy mewn cymunedau arfordirol 'yn gyrru pobl ifanc i ffwrdd'

Heblaw am guriad y tonnau, llonydd oedd Llangrannog heddiw. A'r rheolwr newydd y Pentre Arms yn dechrau dod i arfer â thawelwch y gaeaf.

Hwn yn arferol? Ody ond mae'n fishi drwy'r haf sy'n dangos faint o ail gartrefi sy 'ma. Anodd i fusnes wedyn? Ody, a chadw'r staff yn keen trwy'r gaeaf achos mae eisiau nhw yn yr haf.

Yn rhentu ar hyn o bryd, mae Geraint yn awyddus i brynu ond pa mor bosibl fydd hynny?

Amhosib ar y foment. 'Sdim affordable housing i gael 'ma o beth fi'n gweld. Ers post-Covid, prisiau wedi mynd sky high. Mae'r ffigyrau diweddaraf ar gyfer eleni'n dangos bod 1,648 o ail gartrefi yma yng Ngheredigion.

Dros 500 o eiddo gwag hirdymor a'r gyfradd ar ei uchaf ar yr arfordir. A lot of talk quite rightly about second homes as we can see from the front page of the Daily Telegraph.

Roedd y sefyllfa'n destun trafod gan y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan heddiw.

Gyda chydnabyddiaeth bod y niferoedd uchel yn cael cryn effaith ar bobl ifanc ac yng Ngheredigion, ar yr iaith Gymraeg. Er mwyn cael tai fforddiadwy i gael ei hunain ar y gris gyntaf o ran perchen cartrefi mae'n bobl ifanc wedi dweud bod cael tai fforddiadwy'n rhwystr.

Os oes cynifer o'r tai yn ail gartrefi dydyn nhw ddim ar gael i'n bobl ifanc cael cartrefi yn lleol. O fis Ebrill, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn codi premiwm treth cyngor o 100% ar ail gartrefi gyda hynny i gynyddu i 150% yn 2025.

Ond mae'n gymhleth a mwy nag un ffactor i'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc yn ôl un arall fu'n cyflwyno tystiolaeth.

Y broblem fwyaf yw'r broses gynllunio sy'n gynyddol hir. Mae'n gostus ac mae lot o risg iddi. Dydy'r farchnad o adeiladu tai ddim yn apelgar i nifer o gwmnïau. Nôl yng Ngheredigion, a gofyn am bolisïau penodol i ardaloedd penodol wna'r cynghorydd hwn.

Os yw cynghorau'n cael mwy o ryddid yn eu cynlluniau lleol i roi caniatâd ble maen nhw'n gweld bod angen yn hytrach na gorfod gwrando ar bolisïau urban o Gaerdydd bydd hynny'n help i ni.

Y cwestiwn heddiw yw'r effaith hyn oll ar y Gymraeg. Mae'n amlwg erioed ond y fwy chi o fewn y gweithgareddau cymunedol y fwy chi'n gweld faint o'r ifanc sy'n symud i ffwrdd.

Ni'n ffodus yn gweld rhai'n dod nôl hefyd ond mae angen cartrefi i ddod nôl iddo felly chi'n gweld yr effaith yn ein cymunedau.

Yn y Pentre Arms, mae Geraint yn aros am brysurdeb yr haf. Ac yn breuddwydio, rhywdro am gael lle i'w alw'n gartref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.