Newyddion S4C

Carcharu DJ o Lanelli am bi-pi ar ddioddefwr canser

25/01/2024
Leigh Brookfield

Mae DJ o Lanelli wedi ei garcharu am bi-pi ar ddyn oedd yn derbyn triniaeth am ganser.

Clywodd Llys Ynadon Llanelli bod Leigh Brookfield, 40 oed, wedi ffilmio ei hun yn pi-pi ar y dyn yng Nghlwb Tenis a Sboncen Llanelli.

Yna roedd wedi cyhoeddi’r fideo a gafodd ei recordio ar Ddydd San Steffan y llynedd ar-lein.

Cafodd ei garcharu am 14 wythnos ddydd Iau ar ôl pleidio’n euog i ymosodiad cyffredin mewn gwrandawiad blaenorol.

Dywedodd y barnwr y byddai angen iddo hefyd dalu iawndal o £500, costau o £85 a gordal o £154.

Mewn datganiad dywedodd Clwb Tenis a Sboncen Llanelli eu bod nhw’n “torri eu calonnau bod ein henwi wedi ei lusgo i mewn i hyn”. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.