Newyddion S4C

Codi dros £30,000 wedi i fachgen 16 oed gael ei barlysu yn chwarae pêl-droed

25/01/2024
Declan Mcdonald

Mae apêl wedi codi dros £30,000 wedi i fachgen 16 oed gael ei barlysu o’i ysgwyddau i lawr yn ystod gêm bêl-droed. 

Cafodd yr apêl i godi arian ar gyfer Declan McDonald ei sefydlu gan aelodau o'i dîm pêl-droed ac mae'n cynnwys rhoddion gan nifer o glybiau pêl-droed lleol. 

Roedd y bachgen ifanc o Swydd Lanark yn chwarae ar ran ei dîm, yr AC Rovers, mewn gêm yn erbyn EK Burgh ddydd Sadwrn, pan dorrodd ei wddf. 

Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn fuan wedi’r damwain ac mae eisoes wedi derbyn llawdriniaeth a gymerodd 10 awr i'w chwblhau. 

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei gyd-chwaraewyr eu bod nhw'n "torri eu calonnau" wedi ei anaf.

“Roedd Declan wedi dioddef anaf difrifol i’w wddf a’i dorri, a does dim unrhyw deimlad ganddo o’i ysgwyddau i lawr ers y digwyddiad," medden nhw.

“Mae Declan wedi derbyn llawdriniaeth, a wnaeth bara 10 awr, ar ei wddf ac fel gallwch chi ei ddisgwyl rydym nawr yn aros. 

"Y prognosis presennol yw bod Declan yn annhebygol iawn o allu cerdded eto, ond rydym yn gobeithio y bydd yn adennill rhywfaint o deimlad a defnydd o'i freichiau a'i ddwylo gyda chymorth a ffisio.

“Fyddwn ni’n rhannu mwy o wybodaeth pan ‘dyn ni’n gwybod rhagor ond mae’r clwb yn gofyn eich bod chi’n cadw Declan yn eich meddyliau a’ch gweddïon dros yr wythnosau a misoedd nesaf.” 

Mewn ail ddatganiad, dywedodd: “Fel llystad a hyfforddwr Declan hoffwn ddiolch i’r holl fechgyn a’u rhieni, yn ogystal â phawb ar dîm EK Burgh a wnaeth helpu'r gorau ag y gallant nhw ar y diwrnod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.