Newyddion S4C

Prydain am roi trysorau Ghana yn ôl iddyn nhw 'am gyfnod'

25/01/2024
Otumfuo Osei Tutu II

Mae disgwyl y daw cyhoeddiad ddydd Iau y bydd y Deyrnas Unedig yn dychwelyd trysorau a gafodd eu cymryd o Ghana dros 100 mlynedd yn ôl nôl i’r wlad am gyfnod.

Mi fydd Amgueddfa Victoria & Albert yn rhoi 17 eitem ar fenthyg, tra bydd Amgueddfa Prydain yn rhoi 15 eitem ar fenthyg dan gytundeb tair blynedd o hyd. 

Roedd cymryd yr aur o Ghana'r un fath â dwyn Tlysau y Goron y teulu brenhinol ym Mhrydain, meddai Tristram Hunt sef cyfarwyddwr Amgueddfa’r V&A.

Bydd cyfle i ymestyn y benthyciad am gyfnod hirach hefyd, yn ôl adroddiadau gan y BBC. 

Mae rhai o’r eitemau fydd yn cael ei rhoi yn ôl am gyfnod yn cynnwys cleddyf gwladwriaeth Ghana, bathodynnau aur prif swyddogion y brenin, a chetyn heddwch aur. 

Mae'n bosib y bydd cap seremonïol, sydd wedi'i orchuddio ag addurniadau aur, a'i wisgo gan uwch lyswyr mewn digwyddiadau coroni a gwyliau eraill hefyd yn cael ei roi yn ôl. 

Bydd yr eitemau yn cael eu harddangos y tu fewn i Amgueddfa Palas Manhyia yn Kumasi, sef prifddinas rhanbarth Asante yn Ghana – a hynny er mwyn dathlu jiwbilî arian brenin pobl Asante Ghana.

Mae’r brenin presennol, neu'r Asantehene, Otumfuo Osei Tutu II, wedi bod ar yr orsedd ers 26 Ebrill, 1999.

'Cyfrifoldeb'

Cafodd yr eitemau eu cymryd yn ystod sawl rhyfel rhwng y DU a’r Asante yn ystod yr 19eg ganrif. 

Dywedodd Tristram Hunt: “Mae gan amgueddfeydd, sy’n cadw eitemau gafodd eu cymryd yn ystod rhyfela ac ymdrechion milwrol, cyfrifoldeb i’r gwledydd cafodd yr eitemau ei gymryd oddi wrthynt. 

“Rhaid meddwl am sut allwn ni rhannu'r rheiny mewn ffordd fwy dilys heddiw,” meddai. 

Ond mae Mr Hunt hefyd wedi awgrymu na fydd y cyfnod benthyg yn barhaol, ac mae disgwyl i Ghana rhoi’r eitemau yn ôl i’r amgueddfeydd Prydeinig ymhen rhai blynyddoedd.

Llun o Otumfuo Osei Tutu II (The Kingdom of Asante/Facebook).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.