Newyddion S4C

'Y gyllideb lymaf eto': Pryderon dros gynnydd mewn treth cyngor yng Ngheredigion

24/01/2024
Google Street View

Fe allai trethdalwyr Ceredigion weld eu biliau’n codi bron i 14% - £216 ar gyfartaledd yn ychwanegol y flwyddyn - wrth i’r cyngor wynebu ei “gyllideb lymaf eto”.

Er mwyn cyflenwi eu gwaith am y flwyddyn, gofyniad cyllideb Cyngor Ceredigion ar gyfer 2024/25 yw £192.470m, sydd yn gynnydd o 6.9% ers 2023/24.

Dywedodd adroddiad ar gyfer aelodau Cabinet y cyngor ar 23 Ionawr, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Gareth Davies, fod yr awdurdod wedi derbyn 2.6% yn unig o gynnydd fel rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/45 - y 14eg isaf o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Ychwanegodd nad oedd hi'n bosibl i "ddiogelu gwasanaethau" yn sgil y "pwysau cost sylweddol".

“Dyma gyllideb fwyaf llym eto gan Gyngor Sir Ceredigion, ac yn waeth nag a ragwelwyd yn flaenorol,” dywedodd yr adroddiad.

“Mae canlyniad Setliad Dros Dro Cyllid Llywodraeth Leol, ynghyd â nifer o grantiau penodol yn cael eu torri, yn ogystal â phwysau cost sylweddol iawn ar wasanaethau, sydd yn golygu nad yw’n bosibl bellach i ddiogelu’r gwasanaethau.

“Erbyn hyn mae dewisiadau cyllidebol hynod o anodd ei gwneud fel rhan o bwyso a mesur sut a ble i leihau cost gwasanaethau’r cyngor, ochr yn ochr ag ystyried y lefel briodol o gyllid i’w godi drwy’r dreth gyngor.”

'Gostyngiadau'

Clywodd yr Aelodau y byddai'r rhaniad cyllid rhwng Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Ceredigion yn 68/32 %, sy'n llawer is na'r rhaniad o 80/20% a welwyd dros ddegawd yn ôl.

Ychwanegodd y Cynghorydd Davies: “Dyma’r gyllideb anoddaf i ni ei hwynebu. Rydym wedi wynebu heriau yn y gorffennol ond dim byd o’i gymharu â hyn, a dyw’r flwyddyn nesaf ddim yn edrych yn arbennig o ffafriol chwaith.”

Yn yr adroddiad, clywodd yr aelodau mai’r pwysau cost diweddaraf a wynebwyd gan y cyngor oedd £18.1m, gyda diffyg yn y gyllideb o £14.6m.

Bydd angen "cyfuniad o ostyngiadau yn y gyllideb ac ystyriaethau cynnydd yn Nhreth y Cyngor" er mwyn gwneud i fyny am y diffyg, yn ôl yr adroddiad.

Ymhlith y costau cynyddol ar gyfer 2024/25 roedd costau cyflog byw o £0.9m ychwanegol, pwysau cyllidebol yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol o £6.2m, pwysau cost rhagamcanol y Cyflog Byw Cenedlaethol o tua £4.8m.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.