Newyddion S4C

Menyw y bu bron iddi farw mewn ffrwydrad nwy yn ei chartref yn 'ysbrydoliaeth' i eraill

24/01/2024
Jessica Williams

"Y diwrnod hwnnw, fe chwalodd fy myd a newidiodd fy mywyd.” 

Dyma eiriau menyw o Flaendulais y bu bron iddi farw wedi i’w chartref teuluol ddymchwel arni a’i dau fab yn dilyn ffrwydrad nwy. 

Ym mis Mehefin 2020, dioddefodd Jessica Williams, 34 oed, anafiadau difrifol oedd yn peryglu ei bywyd, wedi iddi a’i phlant gael eu claddu dan dunelli o rwbel. 

Fe dreuliodd Ms Williams fisoedd yn yr ysbyty yn derbyn llawdriniaethau, ond bellach, llai na thair blynedd yn ddiweddarach mae’n defnyddio ei phrofiad “erchyll” i ysbrydoli eraill. 

Wedi iddi gwblhau cwrs prentisiaeth i ofalu am blant, mae Ms Williams wedi cyrraedd rhestr fer Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024.

"Pan es i nôl i ddysgu ym mis Mai 2021, roeddwn i'n ysu am gael fy mywyd mewn trefn. Diolch i'r brentisiaeth, rwyf wedi gweld cynnydd personol aruthrol,” meddai. 

 "Rydw i wedi mynd o un pegwn i'r llall, o fod yn ddifrifol wael ac yn ymladd am fy mywyd, i fod yn arweinydd meithrinfa llwyddiannus. 

“Mae'n anhygoel, ond mae wedi bod yn daith anodd." 

‘Ysbrydoliaeth’

Fel arweinydd meithrinfa Sêr Bach y Cwm, sy'n feithrinfa Dechrau'n Deg yn Ysgol Golwg y Cwm yn Ystradgynlais, mae Ms Williams yn “ysbrydoliaeth” i’w chydweithwyr ac yn blaenoriaethu’r plant a’u teuluoedd a’r bob achlysur, meddai Judith Hickey, pennaeth yr ysgol. 

"Mae stori Jessica yn wirioneddol ryfeddol - mae wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 5 er gwaethaf damwain erchyll sydd wedi newid ei bywyd. 

“Mae ei dycnwch wedi dod i'r amlwg, ac er gwaethaf yr heriau andwyol a niferus, mae Jess wedi ymdrechu i ddyfalbarhau a goresgyn unrhyw her a ddaw i'w rhan.

Ac fel aelod “rhagorol o'r tîm,” mae Ms Williams wedi sicrhau eu bod wedi ennill tua £20,000 o gyllid i wella'r cyfleusterau yn y feithrinfa hefyd.

Llongyfarch

Bydd Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd ar 22 Mawrth.

Maen nhw’n cael eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Wrth longyfarch Ms Williams a’r prentisiaid eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o'n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. 

“Mae eu dycnwch, eu hangerdd a'u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. 

"Rwy'n dymuno pob lwc i bob un o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phobl hwyl iddynt gyda'u hymdrechion yn y dyfodol."‌

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.