Newyddion S4C

Disgyblion o Rondda Cynon Taf yn hel eu pac i fynd ar daith gyfnewid i Guadeloupe

Newyddion S4C 24/01/2024

Disgyblion o Rondda Cynon Taf yn hel eu pac i fynd ar daith gyfnewid i Guadeloupe

Er mwyn sicrhau bod diddordeb disgyblion mewn Ffrangeg fel pwnc yn ffynnu, mae ysgol yn ne Cymru wedi trefnu taith gyfnewid arbennig i'w myfyrwyr, a hynny i Guadeloupe. 

Mae Guadeloupe yn rhanbarth tramor Ffrengig yn nwyrain Môr y Caribî.

Ar ôl derbyn nawdd gan gronfa ”Taith” Llywodraeth Cymru, fe fydd disgyblion Ysgol Llanhari yn codi pac am wythnos fis nesaf, ac yn ymuno â disgyblion yn Ysgol Germain Saint-ruf.

Dywedodd Lily: "Dwi methu aros, oherwydd dwi’n mynd i lle newydd dwi heb mynd o’r blaen, ac yn gallu gweld pobl dwi di bod yn siarad gyda ers on i mewn blwyddyn 9."

Ychwanegodd Harri: "Gobeithio byddwn ni’n ymweld a’r Ysgol er mwyn gweld sut ma nhw’n byw a sut ma  nhw’n dysgu’r iaith a gobeithio bod yn rhannu diwylliant nhw ar gyfer yr wythnos.

"Dwi’n edrych ymlaen i fynd i’r Ysgol i weld yr holl bobl ni di bod yn siarad a am y blynyddoedd diwethaf a gweld pa mor gwahanol yw hi i Gymru," meddai Caitlin.

Niferoedd 'trychinebus' yn astudio ieithoedd modern

Ond wrth i'r disgyblion baratoi i hel eu pac, mae un cyn-athro a chyn-benaeth Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) wedi rhybuddio bod cyn lleied o blant Cymru'n astudio ieithoedd rhyngwladol yn “drychinebus...yn economaidd ac yn ddiwylliannol”. 

Dywedodd Derec Stockley wrth raglen Newyddion S4C: "Mae’r gostyngiad erbyn hyn yn arswydus, hynny yw does braidd neb yng Nghymru rhagor yn gwneud ieithoedd i TGAU heb son am safon uwch. 

"Mae’n anodd meddwl bo ni wedi cyrraedd y sefyllfa yna. 

"Dwi’n meddwl bod hi’n drychunebus i’r wlad yn economaidd ond hefyd i’r disgyblion, mae diffyg mawr yn ei diwylliant bod dim iaith dramor fodern gyda nhw."

Mae’r niferoedd sydd wedi bod yn astudio ieithoedd rhyngwladol fel pynciau TGAU wedi bod yn gostwng yn gyson dros y blynyddoedd.

Roedd 9,112 o ddisgyblion yn astudio ieithoedd rhyngwladol yn 2013. Erbyn 2023 roedd y niferoedd wedi gostwng i 3,430. 

Mae hynny’n ostyngiad o 62% mewn degawd yn ôl ffigyrau gan awdurdod ystadegau StatsCymru.

Image
guadeloupe

'Pryder mawr'

Mae Lowri Reid, arweinydd pwnc ieithoedd rhynwladol yn Ysgol Gyfun Llanhari, yn rhannu’r un pryderon.

“Mae’n bryder mawr. Da ni’n ffodus iawn yn Ysgol Llanhari bod y niferoedd yn gyson yma, ond mae hynny oherwydd yr egni yn yr adran. 

"Mae angen i’r Llywodraeth ymyrryd yn y niferoedd yma. Mae angen mwy o athrawon ieithoedd Rhyngwladol yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg arno ni yng Nghymru, heb os," meddai.

'Ehangu gorwelion'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru : "Rydyn ni’n cydnabod bod gostyngiad ar draws y DU yn nifer y dysgwyr sy’n astudio ieithoedd rhyngwladol. Mae ein cynllun strategol Dyfodol Byd-eang yn nodi sut ydyn ni a’n partneriaid yn cydweithio i gynyddu'r niferoedd, ac i ehangu gorwelion a chodi dyheadau dysgwyr.

"Fel rhan o'r Cwricwlwm newydd i Gymru, mae gan bob dysgwr gyfle i ddysgu o leiaf un iaith ryngwladol ac i ddefnyddio ieithoedd eu cartref ac ieithoedd cymunedol eraill y gallant eu siarad. Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd yn gam pwysig tuag at ddatblygu dysgwyr y dyfodol.

"Drwy ein rhaglen Taith, rydyn ni’n cynnig cyllid i ysgolion cynradd ac uwchradd i gynnal teithiau cyfnewid addysgol rhyngwladol ar gyfer eu disgyblion a'u staff. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymhellion amrywiol i ddenu rhagor o athrawon ieithoedd tramor modern i'r proffesiwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.