Newyddion S4C

Pwy oedd Santes Dwynwen?

25/01/2024

Pwy oedd Santes Dwynwen?

A hithau'n Ddydd Santes Dwynwen, pwy yn union oedd Nawddsant cariadon Cymru a pham ein bod yn dathlu'r diwrnod yma?

Roedd Dwynwen yn Dywysgoes o'r bumed ganrif, ac yn un o 24 o ferched y Brenin Brychan Brycheiniog.

Syrthiodd Dwynwen mewn cariad gyda bachgen o'r enw Maelon Dafodrill, ond roedd ei thad, y Brenin Brychan, wedi trefnu y byddai'n priodi tywysog arall. 

Gyda'i chalon wedi ei thorri, aeth Dwynwen i'r goedwig ac erfyn ar Dduw i'w helpu. 

Daeth angel i ymweld â Dwynwen, gan roi hylif arbennig iddi er mwyn gallu anghofio am Maelon a'i droi yn dalp o rew. 

Ymddangosodd Duw yn ddiweddarach a chynnig tri dymuniad iddi. 

Ei dymuniad cyntaf oedd i ddadrewi Maelon, ei hail oedd i Dduw helpu cyplau oedd yn caru ei gilydd, a'r trydydd dymuniad oedd na fyddai hi fyth yn priodi. 

Er mwyn diolch i Dduw, trodd Dwynwen yn lleian a sefydlu lleiandy ar Ynys Llandwyn ar Ynys Môn. 

Mae adfeilion y lleiandy yn parhau i'w gweld ar yr ynys hyd heddiw. 

Mae ffynnon Dwynwen ar yr ynys hefyd, ac yn ôl y sôn, mae pysgodyn yn byw ynddi sy'n gallu darogan dyfodol cariadon. 

Fe fydd pobl ar draws Cymru yn dathlu Dydd Santes Dwynwen ddydd Iau wrth roi cardiau ac anrhegion i'w hanwyliaid, ac yn cofio am nawddsant cariadon Cymru. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.