Gwyliwch: Ymgais i dorri i mewn i siop yng Nghaerdydd drwy yrru moped drwy'r drws
Gwyliwch: Ymgais i dorri i mewn i siop yng Nghaerdydd drwy yrru moped drwy'r drws
Mae lluniau camera cylch cyfyng caffi yng Nghaerdydd wedi dal y foment y gwnaeth gyrrwr moped geisio torri i mewn drwy yrru ei gerbyd drwy'r drws.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio yn dilyn ymgais i dorri i mewn i siop goffi Ffloc yn Nhreganna yn ystod oriau mân dydd Mawrth 23 Ionawr.
Fe wnaeth y gyrrwr sawl ymgais i daro’r drws gyda’r cerbyd, yn ôl swyddogion.
Ar ôl methu â llwyddo i fynd i mewn, fe wnaeth adael ar y moped.
Mae’r lluniau cylch cyfyng yn dangos person ar foped yn gyrru i mewn i’r drws sawl tro cyn i'r olwyn flaen fynd yn sownd ynddo, cyn iddo dynnu'n rhydd a gyrru o’r lleoliad.
Mae’n debyg bod y drws wedi ei ddifrodi yn ystod y digwyddiad, gyda gwydr y drws wedi ei dorri
'Lwcus'
Fe ddaeth perchnogion Ffloc yn ymwybodol o’r ymgais i dorri mewn i’r eiddo am tua 07.00 y bore canlynol, pan wnaeth gweithwyr gyrraedd i agor y siop.
“Dyw e ddim yn amser gwych i orfod delio â phethau fel hyn,” meddai Rhodri Evans, un o berchnogion Ffloc.
“Ry’n ni’n lwcus bod y drws yn gryf gyda dau glo arno.
“Dyma’r tro cyntaf inni gael unrhyw broblemau, ac ry’n ni wedi bod yma ers dros ddwy flynedd."
Mae Mr Evans yn disgwyl y bydd y gost o drwsio’r difrod “yn y cannoedd.”
Ychwanegodd: “Mae pethau’n eithaf anodd i bob busnes gyda’r gost o fyw yn uchel, ond ry’n ni’n lwcus bod gennym ni lot o gwsmeriaid cyson.”
Roedd Ffloc wedi agor yn ôl yr arfer i’r cwsmeriaid wedi'r digwyddiad, ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn amlwg meddai Mr Evans.
“Mae pobl wedi bod o gwmpas yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n iawn, ac yn danfon negeseuon ar-lein, chwarae teg iddyn nhw.”
Dywedodd Heddlu De Cymru bod ymchwiliad wedi cychwyn i geisio canfod y person oedd yn gyfrifol am yr ymgais i dorri i mewn.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Mae swyddogion sydd yn ymchwilio’r digwyddiad yn apelio am unrhyw dystion neu unrhyw un a all fod â lluniau cylch cyfyng neu ffôn symudol yn eu heiddo, i gysylltu â ni gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400025562.”