Newyddion S4C

Colli swyddi Tata Steel yn 'drychinebus' i bobl ifanc Port Talbot

24/01/2024

Colli swyddi Tata Steel yn 'drychinebus' i bobl ifanc Port Talbot

Ystalyfera - Bro Dur. Cyn dod i'r Chweched, roedd y disgyblion yn mynd i'r ysgol yng nghysgod y gwaith dur.

Bob bore ni'n gallu gweld y safle dur. Mae'n atgoffa ni pam mae'r ardal mor unigryw i ni. Mae'n eiconig i'r ardal ac yn monument i hanes yr ardal.

Wedi'i magu ym Mhort Talbot, Maddie yw Maer Ieuenctid y Sir.

Mae Tata Steel yn cynnig llawer o brentisiaethau i bobl ifanc. Ni'n gwybod bod tadau a tad-cu, hyd yn oed mamau a mam-gu maen nhw 'di cael swyddi yna. Mae'r plant hefyd eisiau dilyn eu rhieni. Fel Cyngor, ni'n mynd i wneud popeth ni'n gallu i helpu pobl ifanc.

Y bwriad yw symud at ddyfodol mwy gwyrdd i'r safle. Ond mae'n broses sy'n debygol o fod yn boenus i'r gymuned. Mae'n meddwl bydd pobl o bob oed yn gorfod ail-hyfforddi ac ail-edrych am waith.

Fi'n credu bydd e'n drychinebus i'r ardal. Yn amlwg mae'r holl emissions mae'r gwaith dur yn allyrru yn niweidiol. Ar y llaw arall, mae'r gwaith dur yn rhan o hunaniaeth yr ardal. Mae'r newyddion am golli swyddi yma'n ergyd i bob oed. Un ai'n uniongyrchol neu drwy'r teulu.

Mae gan y safle bwysigrwydd symbolaidd hefyd. Mae rhai'n poeni am y neges y gall y newyddion diweddar wedi'i roi i bobl ifanc am gyfleoedd yn yr ardal.

O'r colegau ac ysgolion, mae nifer o fyfyrwyr yn edrych at y gwaith dur am yrfa sefydlog a chyflog da. Mae'n fwy pwysig na fuodd hi erioed i ddarparu opsiynau newydd bobl ifanc medd colegau'r ardal.

Mae lot o newidiadau ar y gweill o ran sgiliau gwyrdd. Mae buddsoddiad yn mynd mewn i'r free port yn yr ardal yma. Buddsoddiad i ddatblygu ynni gwynt. Gobeithio byddwn ni'n gallu helpu y sgiliau gan y bobl ifanc.

Mae'r diwydiant dur yn rhan o hanes teulu Daniel.

Roedd tad-cu fi'n gweithio yna. Wnaethon nhw gau lawr ble oedd e'n gweithio a nath e ail-trainio i fod yn athro. Beth yw'r neges ti'n meddwl i bobl ifanc pan mae diwydiant fel hyn yn cael ei daro? Y peth mae'n meddwl mwyaf yw bod mwy o gystadleuaeth wedyn. Does dim byd yn yr ardal yma i'r un fath o scale. Bydd 'na lot o bobl yn cystadlu am swyddi, yn enwedig pobl ifanc.

Neges arweinwyr lleol yw bod yna gynlluniau cyffrous sydd angen pobl ifanc talentog. I'r rhai sy'n poeni am gyfleoedd maen nhw'n teimlo'n bell ar y gorwel ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.