Newyddion S4C

Cecru rhwng y Ceidwadwyr wrth i gyn weinidog alw ar Rishi Sunak i ymddiswyddo

24/01/2024

Cecru rhwng y Ceidwadwyr wrth i gyn weinidog alw ar Rishi Sunak i ymddiswyddo

Mae'n ymddangos fod brwydr fewnol yn datblygu  rhwng y Ceidwadwyr ar ol i gyn weinidog alw ar y Prif Wenidog Rishi Sunak i gamu o'r neilltu cyn yr Etholiad Cyffredinol.  

Ym mhapur y Telegraph, mae Syr Simon Clarke yn rhybuddio y gallai'r Blaid Geidwadol "ddiflannu" os ydy Mr Sunak yn arwain y Ceidwadwyr gydag etholiad ar y gorwel. 

Roedd yn gweithio yn y Trysorlys tra roedd Rishi Sunak yn ganghellor.  

Ychwanegodd fod "lladdfa" yn wynebu'r Ceidwadwyr gyda Mr Sunak wrth y llyw.  

Mae aelodau blaenllaw eraill oddi mewn i'r Blaid Geidwadol wedi taro'n ôl, gan annog eu cydweithwyr i "uno a pharhau â'r dasg."'

Dywedodd y cyn Ysgrifennydd Brexit, Syr David Davis: “Mae'r blaid a'r wlad wedi syrffedu ar Aelodau Seneddol yn rhoi blaenoriaeth i'w huchelgais i arwain eu hunain, ar draul yr hyn sydd orau i bobl y Deyrnas Unedig."  

Ychwanegodd y cyn Ysgrifennydd Cartref, y Fonesig Priti Patel: “Ar yr adeg dyngedfennol hon, gyda heriau adref a thramor, mae'n rhaid i'n plaid ganolbwyntio ar y bobl ry'n ni'n eu gwasanaethu." 

Dywedodd y cyn Ysgrifennydd Amddiffyn a Masnach Syr Liam Fox bod angen i'r rhai sy'n ceisio “dadsefydlogi'r Llywodraeth mewn blwyddyn etholiad ddeall goblygiadau hynny."  

Mae Downing Street wedi cael cais am sylw. 

Roedd Syr Simon Clarke ymhlith yr 11 o Aelodau Seneddol Ceidwadol a bleidleisiodd yn erbyn Bil Rwanda y Prif Weinidog yn ystod y trydydd darlleniad yn gynharach y mis hwn. 

Er gwaethaf ei sylwadau di flewyn ar dafod, dyw hi ddim yn ymddangos fod Mr Sunak yn wynebu her i'w arweinyddiaeth. 

Byddai angen i 53 o Aelodau Seneddol Ceidwadol gyflwyno llythyron o ddiffyg hyder ynddo i'r pwyllgor 1922, er mwyn tanio unrhyw ornest.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.