Newyddion S4C

Storm Jocelyn: Rhai cannoedd yn dal heb drydan wedi i wyntoedd gyrraedd hyd at 97 mya

24/01/2024
Tywydd

Mae rhai cannoedd o gartrefi yn dal heb drydan ar hyd a lled Cymru fore Mercher oherwydd gwyntoedd cryfion dros nos yn sgil storm Jocelyn. 

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, cafodd hyrddiadau o 97 mya eu cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri a 79 mya yn Aberdaron ym Mhen Llŷn.

Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, mae ardaloedd ym Mhowys, y gogledd orllewin a'r gogledd ddwyrain heb drydan yn ogystal â degau o gartrefi yng Nglynebwy ym Mlaenau Gwent.   

Storm Jocelyn oedd yr ail storm i daro Cymru dros y dyddiau diwethaf yn dilyn Storm Isha a achosodd ddifrod ar hyd a lled y wlad .

Daeth rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm i rym ar gyfer siroedd ar hyd a lled Cymru ddydd Mawrth. 

Mae'r rhybudd yn y gogledd yn parhau tan 13:00 ddydd Mercher, tra bod y rhybudd mewn grym tan 15:00 yn y de a'r canolbarth.

Fe wnaeth y tywydd garw achosi oedi i drafnidiaeth ddydd Mawrth, ac yn Sir Conwy bu'n rhaid cau ffordd y B5106 rhwng Llanrwst a Gwydyr, yn ogystal â’r ffordd rhwng Ffordd Groes a Bae Colwyn, a Ffordd Garth a Llansanffraid Glan Conwy.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.