Ail ddechrau chwilio am ddynes ar hyd arfordir Porthcawl
Ail ddechrau chwilio am ddynes ar hyd arfordir Porthcawl
Mae'r gwasanaethau achub wedi ail ddechrau chwilio am ddynes allai fod wedi mynd i'r dŵr ym Mhorthcawl, yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr nos Fawrth.
Dechreuodd y chwilio ar hyd arfordir y dref lan-môr wedi adroddiadau bod person wedi mynd i'r dŵr.
Cafodd y gwasanaethau brys wybod tua 17.55 fod yna bryderon bod person mewn trafferthion yn y môr.
Bu Gwylwyr y Glannau Porthcawl, Port Talbot, Llanilltud Fawr a Sain Tathan yn ceisio dod o hyd i’r person, ac roedd dau hofrennydd gan yr heddlu yn archwilio'r ardal.
Yng nghanol storm Jocelyn, ymunodd bad achub yr RNLI o'r Mwmbwls, Abertawe â'r ymdrechion hefyd.
Ond daeth y chwilio i ben yn ystod oriau mân fore Fercher.
Ar gais yr heddlu yn ddiweddarach fore Mercher, fe ail ddechreuodd y chwilio.