Newyddion S4C

Porthcawl: Gwasanaethau brys yn chwilio wedi adroddiadau fod person yn y môr

23/01/2024
Storm Porthcawl

Mae’r gwasanaethau brys wedi lansio ymchwiliad ar arfordir tref glan môr yn dilyn adroddiadau bod person wedi mynd i'r dŵr.

Cafodd y gwasanaethau brys wybod am tua 17.55 brynhawn ddydd Mawrth fod yna bryderon fod person wedi mynd i’r dŵr ym Mhorthcawl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Nos Fawrth roedd timau achub Gwylwyr y Glannau Porthcawl, Port Talbot a Llanilltud Fawr yn ceisio dod o hyd i’r person, ac roedd dau hofrennydd gan yr heddlu a Gwylwyr y Glannau o dre Sain Tathan hefyd ar waith.

Roedd bad achub yr RNLI o'r Mwmbwls, Abertawe yn cefnogi'r gwaith chwilio.

Daw wrth i rybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm barhau mewn grym, gyda Storm Jocelyn yn parhau i effeithio’r rhan fwyaf o Gymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.