Newyddion S4C

Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi lefelau ymyrraeth uwch ar gyfer tri bwrdd iechyd

23/01/2024
Llywodraeth Cymru - Eluned Morgan

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno lefelau ymyrraeth uwch ar gyfer tri bwrdd iechyd yng Nghymru.

Wrth siarad yn y Senedd nos Fawrth, cyhoeddodd Ms Morgan ei bwriad i weithredu yng ngwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn derbyn cymorth ychwanegol wedi ei dargedu, tra bod statws ymyrraeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cael ei godi o ran cynllunio a chyllid.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn codi i statws wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau. 

Mae lefelau ymyrraeth uwch eisoes wedi’u cyflwyno ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe cyn y Nadolig, yn dilyn statws monitro uwch ar eu huned mamolaeth a babanod newyddanedig. Bydd y bwrdd hefyd yn parhau dan fesurau arbennig ar gyfer cynllunio a chyllid.

Dywedodd fod heriau cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi “effeithio ar eu perfformiad” a bod “bwlch arian cynnyddol” ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

Dywedodd hefyd bod “heriau o ran amseroedd aros” ac “oedi annerbyniol wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys” yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe.

‘Perfformiad’

Dywedodd Eluned Morgan mewn datganiad llafar wrth aelodau'r Senedd: “Fel pob bwrdd iechyd arall, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn wynebu heriau o ran cyllid a chynllunio, ond mae hyn bellach yn effeithio ar eu perfformiad. 

“Dwi’n credu y byddai’r bwrdd yn elwa o gymorth ychwanegol wedi’i dargedu ac felly, dwi wedi penderfynu rhoi’r sefydliad cyfan o dan statws ymyrraeth wedi’i thargedu.

“Cyn y Nadolig, mi wnes i godi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i statws monitro uwch, ond dwi hefyd yn poeni nad ydym ni wedi gweld cynnydd digonol o ran gofal wedi’i gynllunio a gofal heb ei gynllunio.

“Er mwyn helpu’r bwrdd i wella, dwi wedi penderfynu codi’r bwrdd i statws ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau. Ond mi fydd yn aros o dan statws monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.

"Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fwlch ariannol cynyddol, a dyw’r bwrdd heb gynllunio’n ddigonol i gynilo’r diffyg ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol yma. Mae angen ymateb cryfach ar y sefydliad, a chymorth ychwanegol i'w galluogi i wneud hynny.” 

Ni fydd byrddau iechyd eraill Cymru yn cael ei rhoi dan lefelau ymyrraeth uwch. 

'Ysgytwol'

Mewn ymateb nos Fawrth, dywedodd Mabon ap Gwynfor, aelod Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd fod y cyhoeddiad yn “fom clwstwr gwleidyddol,” ac yn methu â mynd i’r afael “â’r problemau cronig yn ein byrddau iechyd.” 

“Maen nhw wedi dod o hyd i £14m i wella diogelwch cleifion yn Ysbyty Athrofaol newydd sbon y Grange. Mae hyn yn ysgytwol. Mae'n ysbyty newydd ond roedd diogelwch cleifion dan fygythiad. Pam wnaethon nhw ei lofnodi? 

“Pam y rhuthr yn ôl yn 2020? Roedd etholiad ar fin digwydd, nid fy mod i'n awgrymu bod yna gysylltiad, wrth gwrs.” 

Wrth ymateb, dywedodd Russell George, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd, bod y cyhoeddiad yn dangos bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru “mewn cyflwr sobreiddiol iawn.”

 “Roedd pob un o fyrddau iechyd Cymru eisoes wedi codi i ryw lefel ymyrraeth oherwydd eu cyllid ac rydyn ni’n gweld nawr bod statws tri bwrdd iechyd bellach wedi cynyddu – gyda Hywel Dda bellach yn yr ail lefel uchaf.

 “Mae ymyrraeth yng ngwasanaeth mamolaeth Bae Abertawe wedi cynyddu eto, dim ond mis ers i’r lefel ymyrraeth godi oherwydd arosiadau hir a phryderon diogelwch sydd wedi’u dogfennu’n dda – mae’n amlwg bod Llywodraeth Lafur yn sownd yn chwarae dal i fyny.

 “Mae Aneurin Bevan wedi’i godi oherwydd yr anawsterau ariannol parhaus, na chafodd ei helpu gan doriadau’r Llywodraeth Lafur i’r gwasanaeth iechyd eleni ac mae’r toriadau hyn bellach yn effeithio ar berfformiad a chanlyniadau cleifion ym Mwrdd Iechyd Ysbyty Athrofaol y Faenor."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.