Naw ymchwiliad troseddol yn sgil asesiad i gefndir gweithwyr ym maes plismona
Naw ymchwiliad troseddol yn unig ddeilliodd o waith ymchwil o blith dros 300,000 o swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr, drwy astudio cronfa ddata cudd-wybodaeth.
Cafodd yr adolygiad ei gynnal mewn ymateb i lofruddiaeth Sarah Everard, a gafodd ei lladd gan blismon yn Llundain yn 2021.
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad fod 461 o achosion yn ddigon difrifol i fod angen eu hasesu gan uwch swyddog.
Arweiniodd 88 achos at archwiliad disgyblu, cafodd 139 archwiliad eu hadolygu, ac fe fu'n rhaid i reolwyr ymyrryd mewn 128 achos. Doedd dim angen gweithredu ymhellach gyda 97 achos.
Roedd yr ymchwiliadau troseddol yn ymwneud â phum swyddog heddlu a oedd yn brifarolygydd neu ar reng is, gydag un achos yn ymwneud â throseddau rhywiol honedig, un cyhuddiad o drosedd cyffuriau a dau gyhuddiad o dwyll.
Mae pedwar aelod o staff yr heddlu yn wynebu ymchwiliad troseddol, gyda dau yn ymwneud â throseddau rhywiol honedig, un cyhuddiad o drosedd cyffuriau ac un arall wedi ei gategoreiddio fel “troseddau amrywiol yn erbyn cymdeithas.”
Hon oedd y drefn sgrinio fwyaf o’i bath ym maes plismona.
Ddydd Mawrth dywedodd Cyngor Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) fod 307,452 o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr wedi cael eu gwirio yn erbyn y gronfa ddata, gyda 461 o’r achosion mwyaf difrifol angen adolygiad gan uwch swyddog.