Buddugoliaeth arall i Donald Trump yn New Hampshire
Mae Donald Trump wedi cymryd cam arall tuag at sicrhau mai fe fydd ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn ras Arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Mae e wedi curo Nikki Haley yn y bleidlais yn nhalaith New Hampshire gyda'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu iddo sicrhau 54.4% o'r bleidlais tra bod ei wrthwynebydd ar 43.6%.
New Hampshire oedd yr ail o 50 talaith i bleidleisio ar ôl Iowa ar y 15fed o Ionawr a’r ail fuddugoliaeth o’r bron i’r cyn-Arlywydd Trump.
Nikki Haley, cyn-lywodraethwraig South Carolina, yw'r ymgeisydd olaf yn y ras i herio Donald Trump wedi i Ron DeSantis, llywodraethwr Florida, roi'r gorau iddi, a datgan ei gefnogaeth i Trump ddydd Llun.
Bydd pwy bynnag sy'n ennill yr enwebiad Gweriniaethol yn wynebu ymgeisydd y Democratiaid yn yr etholiad arlywyddol ym mis Tachwedd.
Mae'n ymddangos y bydd Donald Trump neu Nikki Haley yn sefyll yn erbyn Joe Biden yn yr etholiad hwnnw.
Mae'n ymddangos fod yr Arlywydd Biden wedi ennill ras y Democratiaid yn New Hampshire, er na fydd y canlyniad hwnnw yn cael ei gydnabod oherwydd dadlau mewnol oddi mewn i'r blaid Ddemocrataidd yno.
Byddai gornest rhwng Mr Biden, 81, a Mr Trump, 77, yn golygu cynnal pleidlais arlywyddol 2020 o’r newydd.
Yn Iowa enillodd Trump gyda 51% o’r pleidleisiau, gyda Ron DeSantis yn ail ar 21.2% a Nikki Haley ar 19.1%.
Mae'r canlyniad yn New Hampshire yn fuddugoliaeth allweddol i Donald Trump, ond wrth gymharu canlyniad Iowa, mae Nikki Haley wedi llwyddo i ennill canran uwch o bleidleisau yn sgil absenoldeb DeSantis.
Dywedodd fod y ras "ymhell o fod drosodd" gan ychwanegu ei bod hi'n gymeriad sy'n medru "brwydro"
Ond mynnodd Donald Trump bod Haley wedi cael "noson wael"