Newyddion S4C

Welsoch chi Walter y walabi? Yr heddlu’n ymchwilio i ladrad honedig ym Môn

23/01/2024
Walter y Walabi

Mae’r heddlu yn ymchwilio i adroddiad bod walabi ifanc wedi cael ei ddwyn ar Ynys Môn.

Y gred yw bod y walabi ifanc, o’r enw Walter, wedi cael ei ddwyn o gyfeiriad ar Ffordd Caergybi, Bae Cemaes rhwng 4.00-6.00 addydd Iau 18 Ionawr.

Dywedodd y Rhingyll Beth Lloyd: “Mae perchennog Walter yn pryderu’n fawr am les yr anifail ac am iddo ddychwelyd adref.

“Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd Walter y walabi, neu sydd â thystiolaeth ar gamera ar yr adeg honno neu sydd wedi bod yn dyst i ymddygiad amheus, i gysylltu â’r heddlu ar unwaith.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth yn yr ymdrech i ddarganfod Walter gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 24000085021.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.