Newyddion S4C

Ffermydd gwynt - mantais neu anfantais i gymunedau lleol?

Ffermydd gwynt - mantais neu anfantais i gymunedau lleol?

Yng nghanol ymgynghori ynglyn â chodi fferm wynt arall yn y gogledd, mae na gwestiynau eto i ba raddau mae cymunedau ar eu hennill wrth i felinau gael eu codi ar y tir.

Y cynllun diweddara ydy un cwmni RWE i godi fferm wynt ger Cronfa Ddwr Alwen, ar dir ar y ffin rhwng Siroedd Conwy a Dinbych. 

Eisoes mae sawl cynllun arall wedi gweld golau dydd yn y rhan honno o'r gogledd. Byddai hon yn darparu digon o drydan ar gyfer 63,500 o gartrefi.

"Ni'n son am naw turbine tua dau gan metr o uchder," meddai Arfon Edwards, un o ddatblygwyr RWE ym maes gwynt ar y tir. 

"Mae da' ni gronfa gymuned yn yr ardal, mae un wedi bod yng Nghlocaenog, mae hwnna lan i nawr wedi sicrhau chwe deg o swyddi yn yr ardal. 

"Bydd yr Alwen hefyd yn rhoi cronfa i'r gymuned a bydd hi lan i'r gymuned beth maen nhw isio neud 'da fe."

Image
Arfon Edwards
Mae Arfon Edwards yn un o ddatblygwyr RWE ym maes gwynt ar y tir. 

Fe fu cyfle yn ysgol Uwchaled i bobol Cerrigydrudion i glywed mwy am hyn, fel rhan o'r cyfnod ymgynghori. 

At ei gilydd roedd Trystan Edwards - oedd wedi dod i'r arddangosfa gyda'i blant - yn fodlon gweld rhagor o felinau gwynt: "Rwy'n gefnogol, tu ol i lle dan ni'n byw ym Mhentrellyncymer mae tyrbeini gwynt yno'n barod.

"Maen nhw'n mynd i fynd i'r ochor arall o'n golygfa ni rŵan, dwi'n mwynhau 'mhaned o de a choffi min nos cystal â'r person nesa, felly dan ni angen yr egni yn ein cymdeithas.

"Dwi'n teimlo yn falch bod ni'n symud oddi ar lo, ac olew, ac maen nhw (y plant) yn dysgu lot am hynny yn yr ysgol ac yn y blaen ... nhw fydd y genhedlaeth nesa, os oes ffyrdd i gadw gwaith ac incwm i bobol i aros, mae hynny'n fwy pwysig na dim."

Image
Trystan
Roedd Trystan Edwards yn fodlon gweld rhagor o felinau gwynt

Ond roedd rhai o'r farn y gallai'r gymuned elwa fwy - yn eu plith Prys Ellis: "Yn y marn i mi ddylen nhw (RWE) fod yn rhoi gostyngiad yn y trydan ar gyfer pobol leol sydd yn y dalgylch bychan, achos y ni sy'n cael yr hasl pan maen nhw'n dod a nhw i fyny (y melinau) a ni sy'n gweld nhw... 

"Dwi di codi hyn o'r blaen ond dim syniad ydyn nhw'n gymryd o fyny de."

Cyfranddaliadau 

Fe fydd modd i bobol brynu cyfranddaliadau drwy fod yn rhan o fenter gymunedol, hyd at 15% o werth y prosiect cyfan.

"Mae'n siwr fydd na rai yn cael eu temtio i neud hynny, dim dwy waith am hynny," meddai Einion Edwards, gŵr arall oedd yn yr ymgynghoriad. 

"Ond dim pawb sy'n gallu fforddio hynny, pam nad rhoi cyfraniadau i'r rhai mwya lleol .... cylch o gwmpas, o fewn milltir, dwy, tair neu beth bynnag."

Dau awgrym yn y fan honno - trydan rhatach a chyfranddaliadau am ddim. 

"Ni yn gwrando ar be mae'r gymuned mo'yn ar hyn o bryd ..... ni yn cymryd be mae'r gymuned mo'yn ac isio mas o'r pecyn yma," meddai Arfon Edwards o RWE.

"Efallai bydd posib yn y dyfodol i falla cael pethau'n rhatach a falla i dalu mewn i'r share scheme hefyd." 

Ychwanegodd fodd bynnag ei bod yn annhebygol y bydd trydan rhatach yn cael ei gynnig, er y gellid lleihau'r defnydd ohono.

Image
Gwenno Hughes - swyddog aelodaeth Ynni Cymunedol Cymru[66].png
Mae Gwenno Huws yn credu bod cadw'r arian yn y gymuned yn bwysig iawn.

"Be sy'n bwysig ydy bod y arian yn aros yn y gymuned," meddai Gwenno Huws, swyddog aelodaeth Ynni Cymunedol Cymru.

"Fydd gen y bobol fydd yn buddsoddi yr hawl i ddewis be fydd y pres ychwanegol sy'n cael ei greu yn mynd tuag at... y pwrpas ydy bod y pres yn aros yn y gymuned.

"Fydd pawb yn cael yr arian gobeithio maen nhw'n rhoi fewn yn ol a bydd unrhyw beth dros y ganran yna wedyn yn aros yn y gymuned."

Mae menter gymunedol Ynni Hiraethog bellach wedi cael ei chofrestru gyda'r Awdurdod Ariannol. 

Fe ddywedodd swyddog o RWE fod mentrau o'r fath yn talu swm blynyddol teg o log ar yr arian sy'n cael ei fuddsoddi, gyda'r gweddill yn cael ei ddefnyddio i hybu prosiectau lleol.

Yn amlwg mae digon i'w drafod, ac ar ol ystyried yr ymateb mi fydd cwmni RWE yn cyflwyno cais cynllunio i'r adran berthnasol o Lywodraeth Cymru, gan obeithio dechrau codi'r fferm wynt ymhen dwy flynedd, a bod honno ar waith ymhen pedair.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.