Yr Oscars: Oppenheimer yn arwain yr enwebiadau
Y ffilm Oppenheimer sydd yn arwain yr enwebiadau ar gyfer gwobrau’r Oscars eleni.
Fe dderbyniodd y ffilm gyfanswm o 13 o enwebiadau, sy'n cynnwys y Ffilm Orau a'r Actor Orau, sef Cilian Murphy.
Roedd hyn un yn brin o'r record am ffilm â'r nifer fwyaf o enwebiadau erioed, wrth i’r enwebiadau cael eu cyhoeddi yn Hollywood ddydd Mawrth.
Mae'r ffilm yn olrhain hanes Robert Oppenheimer, y gwyddonydd a oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r bom atomig.
Mae'r actores Carey Mulligan - sydd â chysylltiad teuluol â Sir Gaerfyrddin drwy ei mam, sydd yn dod o Landeilo - wedi derbyn enwebiad am yr Actores Orau am ei rôl yn y ffilm Maestro.
Fe wnaeth Maestro dderbyn cyfanswm o saith enwebiad, tra bod y ffilm Barbie wedi derbyn wyth o enwebiadau.
Yn syndod i sawl un, ni chafodd prif actores Barbie, Margot Robbie, na chyfarwyddwraig y ffilm, Greta Gerwig, eu henwebu.
Yn ogystal â dwy o ffilmiau mwyaf 2023, Oppenheimer a Barbie, cafodd Maestro, American Fiction, Anatomy of a Fall, The Holdovers, Killers of the Flower Moon, Past Lives, Poor Things a The Zone of Interest eu henwebu ar gyfer y Ffilm Orau.
Bydd gwobrau’r Oscars yn cael eu cynnal Nos Sul 10 Mawrth.
Llun: Carey Mulligan (Wotchit) / Cilian Murphy (PA)