'Gwartheg, i ni, mae nhw'n rhan o'r teulu': Y gwewyr o golli gwartheg i TB
'Gwartheg, i ni, mae nhw'n rhan o'r teulu': Y gwewyr o golli gwartheg i TB
Wrth i deulu o Gapel Isaac ger Llandeilo golli 27 o'u gwartheg yn ddiweddar, wrth iddyn nhw gael eu lladd ar y buarth o ganlyniad i brofion diciâu, roedd criw ffilmio rhaglen Ffermio yno, a’r gwirionedd yn galed i bawb ei wylio.
Yn barod, mae teulu Wyn ac Enid Davies o fferm Castell Hywel wedi colli 180 o wartheg ers 2020.
Ar hyn o bryd mae profion TB yn orfodol ar gyfer pob fferm wartheg er mwyn ceisio rheoli'r clefyd.
Mae'r teulu yma, fel gymaint o rai eraill, yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar sut mae’r profion yn cael eu cynnal.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd modd rhoi sylw ar achosion unigol ond eu bod yn “ymwybodol iawn” o “effaith ddifrifol TB buchol ar iechyd a lles ffermwyr a'u teuluoedd”.
Mae modd gwylio rhaglen Ffermio nos Lun ar S4C Clic a BBC iPlayer.