Newyddion S4C

Gweithwyr dur Tata i gyfarfod ASau yn Nhŷ’r Cyffredin

23/01/2024

Gweithwyr dur Tata i gyfarfod ASau yn Nhŷ’r Cyffredin

Bydd undebau a gweithwyr dur yn cwrdd yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth er mwyn “brwydro” cynlluniau Tata Steel i gau dwy ffwrnais chwyth - cynllun fydd yn arwain at 2,800 o swyddi yn cael eu colli ym Mhort Talbot.

Dyma’r ail dro i’r undebau gwrdd ers i’r cwmni gadarnhau eu bod am drawsnewid eu gweithfeydd i fod yn fwy “cynaliadwy” ddydd Gwener, gan olygu y byddai miloedd o bobl lleol yn colli eu swyddi. 

Daw hyn wedi i benaethiaid Tata Steel gwrdd â Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn ogystal â phenaethiaid undebau ac oddeutu 50 o’u cynrychiolwyr mewn cyfarfod ym Mhort Talbot ddydd Llun. 

Ond roedd y rhan fwyaf o bobl yno “dal yn siomedig, dal yn grac iawn” am yr hyn mae Tata Steel wedi ei benderfynu, gyda sawl un ohonynt yn ystyried gweithredu’n ddiwydiannol.

Wedi iddo siarad â phennaeth undeb Community, Roy Rickhouse, dyewedodd Huw Thomas y gohebydd busnes ar raglen Newyddion S4C bod yr undebau yn benderfynol o “frwydro” ac yn “barod i rwygo’r cynllun i ddarnau.” Fe fydd y Blaid Llafur yn cyflwyno dadl ar y pwnc yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth. 

Esboniodd Huw Thomas: “Mae rhai o’r gweithwyr, rhai o gynrychiolwyr yr undebau yn mynd i Lundain ddydd Mawrth achos mae ‘na ddadl gan yr wrthblaid yn Nhŷ’r Cyffredin i drafod y diwydiant dur.

“Ond dyma’r camau cynta’. Maen nhw’n gobeithio clywed erbyn diwedd yr wythnos be’ ydy’r cynllun manwl gan Tata Steel – dechrau ar y gwaith o ymgynghori ar hynny. 

“Ac wedyn yr undebau yn gobeithio newid pethe’ felly ni fydd cynlluniau Tata Steel o’r rheidrwydd yn dwyn ffrwyth os mae’r undebau yn llwyddo newid y broses.”

‘Colli swyddi’

Mae disgwyl i ragor o bobl golli eu swyddi yn y dyfodol agos petai’r ffwrneisi'n cael eu dymchwel, gyda disgwyl i 300 o swyddi pellach ddod i ben gan wthio’r cyfanswm yn y pen draw i dros 3,000.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad ddydd Gwener, dywedodd Tata taw bwriad y cynllun yw “gwrthdroi mwy na degawd o golledion” a “thrawsnewid o’r ffwrneisi chwyth etifeddol i fusnes dur gwyrdd mwy cynaliadwy.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gytundeb gwerth £500 miliwn ym mis Medi mewn ymdrech i ddatgarboneiddio safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot.

Ond dywedodd Tata mai dim ond 5,000 o'r 8,000 o swyddi ar draws y DU y byddai’r cytundeb yn gallu ei achub.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.