Newyddion S4C

Gwyntoedd cryfion yn amharu ar drafnidiaeth wrth i Storm Jocelyn daro

23/01/2024
Rhybudd melyn

Mae gwyntoedd cryfion wedi effeithio ar drafnidiaeth mewn rhannau o Gymru wrth i Storm Jocelyn daro'r wlad.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm ar gyfer siroedd ar hyd a lled Cymru ddydd Mawrth. 

Yn y de a’r canolbarth, mae rhybudd melyn am wynt wedi dod i rym am 12.00 ddydd Mawrth gan bara hyd at 15.00 ddydd Mercher – tra yn y gogledd, mi fydd y rhybudd mewn grym rhwng 16.00 brynhawn Mawrth hyd at 13.00 ddydd Mercher. 

Bydd rhybudd melyn am law mewn grym ar gyfer pob sir ar draws Gymru ac eithrio Ynys Môn, rhwng 12.30 a 19.00 ddydd Mawrth.

Yn siroedd Dinbych a Wrecsam, bydd ffordd yr A483 o gyffordd 1 i'r A5 Cylchfan Gledrid ar gau heddiw rhwng 15.45-19.15, oherwydd rhagolygon am wyntoedd cryfion ar draphontydd Dyfrdwy a Ceiriog.

Mae Pont Britannia ar gau i garafanau, beiciau a beiciau modur, gyda therfyn cyflymder o 30mya mewn grym ar gyfer cerbydau eraill.

Mae disgwyl i'r bont gau i bob math o gerbyd ac eithrio ceir a faniau bychain rhwng 17.00-20.00, a 22.00-23.00, yn ogystal.

Y gred yw y bydd y gwyntoedd cryfion yn cyrraedd eu penllanw am hanner nos, nos Fawrth, gyda'r gwyntoedd yn chwythu ar gyflymder o 55-65 mya, ac o bosib 70 mya ar hyd yr arfordir. 

Fe ddaw wrth i’r ymdrechion i glirio llanastr Storm Isha barhau, gyda nifer o goed wedi disgyn ar draws ffyrdd, a'r gwaith o drwsio clebau trydan a gafodd eu difrodi yn cael ei gwblhau ddydd Llun.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio fod perygl i storm Jocelyn achosi difrod pellach, gyda disgwyl i ragor o goed i ddisgyn ar ffyrdd, yn ogystal â difrod i dai ac adeiladau. 

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai’r tywydd garw achosi perygl i fywyd, ac mae rhybuddion am donnau mawrion ar hyd yr arfordir. 

Siroedd

Bydd rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym rhwng 12.00 ddydd Mawrth a 15.00 ddydd Mercher yn y siroedd canlynol:

- Blaenau Gwent

- Pen-Y-Bont ar Ogwr

- Caerffilli

- Caerdydd

- Caerfyrddin

- Ceredigion

- Merthyr Tudful

- Sir Fynwy

- Castell-nedd Port Talbot

- Casnewydd

- Powys

- Rhondda Cynon Taf

- Abertawe

- Torfaen

- Bro Morgannwg

Bydd rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym rhwng 16.00 ddydd Mawrth a 13.00 ddydd Mercher yn y siroedd canlynol: 

- Ceredigion

- Conwy

- Sir Ddinbych

- Sir y Fflint

- Gwynedd

- Ynys Mon 

- Powys 

- Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.