Newyddion S4C

Galw am fwy o wasanaethau iechyd meddwl i ddioddefwyr strôc

23/01/2024
Aaron Kent a'i wraig

“Wnes i afael yn fy mab tair blwydd oed, a meddyliais tybed fyddwn i fyth yn ei weld o eto, plentyn oedd ar fin gwylio’i dad yn marw ar lawr ei ystafell wely.”

Dyma eiriau dyn o ardal Llandysul wedi iddo brofi anhwylder straen wedi trawma (PTSD) a gorbryder ar ôl dioddef strôc ychydig o flynyddoedd yn gynharach. 

Yn dad i ddau o blant, Otis a Rue, sydd bellach yn dair a chwe blwydd oed, fe gafodd Aaron Kent, 35 oed o Dalgarreg, strôc ym mis Hydref 2020. 

Fis Awst y llynedd, fe deimlodd Mr Kent symptomau’r strôc unwaith eto, ag yntau’n dioddef o PTSD. 

Mae bellach yn galw am fwy o wasanaethau iechyd meddwl arbenigol er lles unigolion eraill sydd wedi goroesi strôc.

“Pan adawais i’r ysbyty, ‘nes i sylweddoli ar pa mor unig o’n i’n teimlo. 

“Roedd fy ngwraig, Emma, yn graig ac yn fy nghefnogi’n llwyr, ond nid oedd ganddi brofiad uniongyrchol o ddioddef â strôc. 

“Newidiodd fy myd yn gyfan gwbl; roedd yn rhaid ailystyried popeth roeddwn wedi’i gymryd yn ganiataol.  

“A phan feddyliais fy mod i wedi gorchfygu’r strôc, roedd problemau newydd yn codi: pyliau o banig, lludded, newidiadau yn fy ffordd o fyw.  

“Pryd bynnag ‘dych chi’n teimlo fel eich bod yn glir o’r strôc, mae’n eich tynnu yn ôl ac mae’n eich atgoffa nad ydych chi’r un person yr oeddech chi,” meddai.  

Image
Aaron Kent a'i blant
Aaron Kent a'i blant

'Cymorth'

Fe wnaeth Mr Kent ymdrech i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl ar y pryd, ond ar ôl disgwyl ar restr aros “am flynyddoedd” fe benderfynodd talu am gwnsela preifat. 

Mae'n parhau i fyw gyda phroblemau iechyd meddwl o hyd, ac mae'n galw am fwy o gymorth i bobl mewn sefyllfa debyg.

“Dair blynedd yn ddiweddarach a dyma fo unwaith eto, yn codi’i ben ac yn rheoli fy mywyd,” meddai wrth drafod ei iechyd meddwl. 

“Rwyf yn dyheu am ddyfodol lle mae goroeswyr strôc yn cerdded allan o ddrysau ysbytai gyda llwybr clir i adferiad. 

“Rwy’n gobeithio am ddyfodol lle nad yw strôc yn ddirgelwch i oroeswyr ac aelodau’u teulu fel ei gilydd, ond yn daith eglur, gryno, ofalus wedi ei ddiffinio gan lwyddiant y ddarpariaeth iechyd meddwl,” ychwanegodd. 

'Bwlch'

Daw galwad Mr Kent ar y cyd â'r Gymdeithas Strôc a Mind Cymru, yn dilyn adroddiad newydd sy’n “amlygu’r angen” am fwy o gymorth iechyd meddwl i ddioddefwyr.

Yn ôl yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, mae dros 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru.  

Mae oddeutu tri chwarter o’r rheiny wedi profi “o leiaf un broblem iechyd meddwl” yn dilyn strôc – ond dim ond 3% wnaeth dderbyn cymorth “pan oedd arnynt ei angen fwyaf” medd yr adroddiad.

Mae “bwlch” yn y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i oroeswyr strôc, meddai'r Gymdeithas Strôc, ac mae prinder adnoddau a chymorth i’r rheiny sy’n byw ag iselder neu gorbryder yn parhau.

Dywedodd Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru gyda'r Gymdeithas Strôc: “Gwyddom nad oes yna ateb gwyrthiol ar gyfer helpu goroeswyr strôc i ailadeiladu’u hiechyd meddwl, ac eto mae arnom eisiau gweld iechyd meddwl yn cael yr un sylw ag iechyd corfforol wrth wella ar ôl strôc. 

“Gan weithio â Mind Cymru a phobl yr effeithir arnynt gan strôc, rydym wedi dechrau datblygu syniadau ar gyfer atebion, yn cynnwys grŵp adfer lles arbenigol i oroeswyr strôc.  

“Fodd bynnag, mae ar y syniad hwn angen cyllid os ydym am fod yn gallu cynorthwyo pobl ledled Cymru’n ddigonol i ailadeiladu’u hiechyd meddwl ar ôl strôc.” 

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda'r Gymdeithas Strôc, y Rhwydwaith Gweithredu ar Strôc a thîm y Rhaglen Strôc Genedlaethol i gefnogi adferiad pobl yn dilyn strôc, mae hyn yn cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth a seicolegol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.