Newyddion S4C

Gwrthwynebiad lleol i gynllun i godi 300 o dai yn Hen Golwyn

26/01/2024
Datblygiad Hen Golwyn

Mae trigolion lleol wedi cael y cyfle i ddweud eu dweud ar gynllun dadleuol i adeiladu hyd at 300 o dai yn Hen Golwyn.

Ddydd Mawrth, fe gafodd trigolion y pentref y cyfle i roi eu barn ar ddatblygiad arfaethedig ar dir ar Fferm Peulwys, mewn gweithdy ym Mharc Eirias.

Cymorth Cynllunio Cymru (CCC) sydd yn cynnal y gweithdai fel rhan o ymgynghoriad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sydd wedi clustnodi’r safle fel rhan o’u Cynllun Datblygiad Lleol.

Yn ôl y cynllun gwreiddiol yn 2019, roedd yr awdurdod yn gobeithio codi 450 o dai ar y safle. Ond mewn diweddariad i’r cynllun fis diwethaf, dywedodd y cyngor eu bod bellach yn awgrymu y dylai 200-300 o dai gael eu codi ar y safle.

Mae deiseb sydd yn gwrthwynebu’r cynllun bellach wedi ei harwyddo gan 650 o bobl.

Dywedodd Chris Morris o Hen Golwyn, a wnaeth greu’r ddeiseb, bod y cynllun yn peri “bygythiad i wir ysbryd y gymuned".

“Bydd y datblygiad arfaethedig yn rhoi straen annioddefol ar ein seilwaith lleol,” meddai.

“Nid yw'n ymwneud â newid tirweddau yn unig, mae'n ymwneud â newid bywydau ac amharu ar y cydbwysedd bregus sydd gennym â natur.

“Mae ein ffyrdd, ein hysgolion a'n cyfleusterau gofal iechyd eisoes yn brin; bydd ychwanegu mwy o drigolion heb gynllunio'n iawn ond yn gwaethygu'r materion hyn.

“At hynny, mae'r prosiect hwn yn peri risgiau amgylcheddol sylweddol. Mae’n peryglu’r fferm olaf sydd ar ôl o fewn ein hardal – yn symbol o’n treftadaeth ac yn rhan hanfodol o’n hecosystem leol. Yn ogystal, mae'n cynyddu'r perygl o lifogydd oherwydd newidiadau mewn patrymau defnydd tir.

“Nid yw ein cymuned yn erbyn cynnydd na thwf, ond dylai datblygiad o'r fath fod yn gynaliadwy ac yn ystyriol o'i hamgylchoedd.”

'Eisiau barn'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Fe wnaethon ni ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir yn 2019. Ond mae llawer wedi newid ers 2019 - mae cartrefi newydd wedi’u hadeiladu ac mae caniatâd cynllunio ar gyfer mwy. 

“Rydym bellach yn awgrymu llai o gartrefi newydd ar gyfer y dyraniadau Safleoedd Strategol o’r Strategaeth a Ffefrir.

“Rydym eisiau gwybod beth yw barn trigolion lleol am y safleoedd hyn cyn i ni ysgrifennu'r polisïau. 

"Mae Cymorth Cynllunio Cymru (CCC) yn cynnal gweithdai i ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.