Penrhyn Gŵyr: Ymgyrch i warchod morloi rhag cylchoedd taflu
Mae ymwelwyr i draethau ar draws ardal Abertawe a phenrhyn Gŵyr yn cael eu hannog i beidio â defnyddio cylchoedd taflu er mwyn gwarchod morloi sy'n byw o amgylch yr arfordir.
Mae’r cylchoedd taflu yn debyg i Frisbees gyda thwll yn y canol ac mae pryder eu bod nhw’n gallu dal o amgylch gyddfau’r morloi sy’n byw ar greigiau yn yr ardal.
Mae Grŵp Morloi Gŵyr, wedi bod yn cydweithio gyda chyngor Sir Abertawe, ysgolion a busnesau lleol ym mhenrhyn Gŵyr i godi ymwybyddiaeth o’r perygl i fywyd gwyllt ar hyd arfordir yr ardal.
Mae rhai o fusnesau ym mhenrhyn Gŵyr, gan gynnwys parciau carafanau a gwersylla, eisoes wedi rhoi'r gorau i'w gwerthu.
Dywedodd sylfaenydd Grŵp Morloi Gŵyr ac is-gadeirydd sefydliad UK Seal Alliance, Gareth Richards: "Does neb yn prynu cylchoedd taflu gyda'r bwriad o achosi poen a dioddefaint i forloi. Ond dyna beth all ddigwydd os yw’r rhain yn cael eu colli neu eu taflu ar draeth neu ger ddyfroedd.
"Mae morloi yn chwilfrydig ac yn chwareus, ond gall dod o hyd i gylchoedd taflu yn y dŵr fod yn beryglus iawn iddynt, gan ei fod yn hawdd iawn i'w gyddfau gael eu dal ynddyn nhw."
Ychwanegodd na all y creaduriaid ryddhau eu hunain o'r cylchoedd ac wrth iddynt dyfu, mae'r cylch yn tynhau, yn cyfyngu ar eu symudiad ac yn aml yn achosi poen, dioddefaint ac, yn y pen draw, marwolaeth.
Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi gweld dros y blynyddoedd niferoedd cynyddol o’r cylchoedd hyn yn cael eu taflu ar draethau, oherwydd maen nhw mor rhad, pan mae pobl yn eu colli, dydyn nhw jyst ddim yn chwilio amdanyn nhw.
"Felly ni'n gofyn i bobl beidio â'u prynu, yn sicr yn siopwyr i beidio â'u gwerthu, a byddai'n well gennym i bobl brynu'r Frisbee disg solet oherwydd eu bod yn selio'n ddiogel, yn ddelfrydol nid plastig.
"Ond yn y pen draw oherwydd bod y rhain yn cael eu mewnforio yn eu miloedd i’r DU, rydym yn annog y llywodraeth i weithredu.
"Byddem wrth ein bodd yn gweld gwaharddiad gan y llywodraeth ar fewnforio'r eitemau angheuol hyn."
Llun: Seal Alliance