'Gwarthus': Beirniadu gwerthiant tocynnau gêm Casnewydd yn erbyn Man Utd
Mae nifer o gefnogwyr wedi beirniadu'r drefn wrth geisio prynu tocynnau ar gyfer y gêm fawr rhwng Casnewydd a Manchester United yng Nghwpan yr FA dydd Sul, gan ddadlau fod diffyg eglurder am yr union adeg y byddai'r tocynnau ar werth i'r cyhoedd.
Gêm gartref yw hi i Gasnewydd gyda lle yn Rodney Parade i ryw 9,000 o gefnogwyr.
Cafodd tocynnau ar gyfer y gêm eu rhyddhau i'r cyhoedd yn swyddogol am 10:00 fore Llun, ond yn ôl rhai cefnogwyr, roedd modd iddynt brynu tocyn cyn hynny.
Nid oedd modd i gefnogwyr brynu tocynnau yn y swyddfa docynnau wedi i'r clwb gau'r swyddfa yn sgil cwynion am ymddygiad bygythiol.
Cyhoeddodd CPD Casnewydd ddydd Sul bod tocynnau yn mynd ar werth i'r cyhoedd am 10:00 fore Llun, ond dywedodd y clwb wrth Newyddion S4C bod modd i gefnogwyr fynd ar y wefan ac ymuno â chiw rhithiol cyn hynny.
Ond nid oedd cyfeiriad at y wybodaeth honno yn natganiad y clwb pêl-droed ddydd Sul, ac mae nifer o gefnogwyr yn anhapus, ac yn dadlau iddyn nhw golli cyfle oherwydd hynny.
'Siomedig'
Yn ôl rhai cefnogwyr a oedd wedi ciwio ar-lein cyn 10, roedd modd iddynt brynu tocynnau hyd at 15 munud cyn roedd y tocynnau i fod ar werth yn swyddogol.
Dywedodd Ashley Healey: "Roeddwn i mewn am 09:45 ac wedi rhoi dau docyn yn fy masged."
Roedd Bill Pritchard wedi prynu dau docyn am 09:53. Dywedodd bod y system docynnau yn "warthus."
I nifer o gefnogwyr eraill, er iddynt ddod yn agos at gael tocynnau, roedden nhw wedi cael eu taflu allan o'r ciw.
Ymhith y cefnogwyr a gollodd eu lle, roedd Andrew Silverthorne.
"Roeddwn i tua 250 yn y ciw, daeth fy nhro i a chefais fy nghicio allan... wedyn roeddwn i'n rhif 4,000."
Cafodd David Battersby yr un broblem: "Hyd yn oed ar ôl ceisio prynu tocynau, cael tocyn yn y fasged a wedyn methu a'u prynu a cael fy nghicio allan."
Er bod Chloe Marie wedi mynd ati i geisio prynu tocynnau dros hanner awr cyn iddynt fynd ar werth, roedd ei hymdrechion yn aflwyddiannus.
"Mae'n siomedig dysgu bod tocynnau wedi mynd ar werth cyn 10:00," meddai.
"Roedd hi'n lwc pur fy mod i wedi mynd ar y wefan am 09:27 ond i ddarganfod bod 4,000+ yn fwy o'm mlaen i yn y ciw. Doeddwn i dal ddim yn gallu prynu rhai."
'Galw digynsail'
Dywedodd CPD Casnewydd wrth Newyddion S4C bod angen agor y system docynnau yn gynt na 10:00 er mwyn osgoi problemau oddi mewn i'r system.
Ychwanegodd fod blaenoriaeth i'r rhai ymunodd â'r ciw ynghynt.
“Roedd y penderfyniad i werthu tocynnau ar-lein bum munud yn gynnar wedi ei wneud er mwyn atal y ciw rhag tyfu i lefel a allai achosi problemau i’r system docynnau allanol.
"Roedd hynny hefyd i sicrhau bod y rhai ar flaen y ciw yn cael blaenoriaeth. Ni wnaeth unrhyw wahaniaeth, ond gwahaniaeth cadarnhaol i'r rhai yn y ciw, dim ots os oedden ni wedi dechrau gwerthu am 09:55 neu 10:00.
"Mae’r galw am docynnau ar gyfer y gêm hon wedi bod yn ddigynsail ac mae’r clwb wedi ymdrechu i fodloni cymaint o geisiadau â phosibl, gan roi blaenoriaeth i ddeiliaid tocynnau tymor presennol ac aelodau Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr.
"Yn anffodus, fe fydd yna filoedd o hyd sydd heb lwyddo i gael tocyn, er ein bod ni hefyd wedi ychwanegu stondin dros dro newydd ar Rodney Parade. Mae'r galw wedi mynd y tu hwnt i'r cyflenwad sydd gennym."
Prif lun: Asiantaeth Huw Evans / Marc Peplow