Newyddion S4C

Cerddwr 83 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar

22/01/2024
Stow Park Crescent

Mae dyn 83 oed o Gasnewydd wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn y ddinas ddydd Gwener 19 Ionawr. 

Cafodd yr heddlu eu galw i Stow Park Crescent toc cyn 13.00, wedi adroddiadau am wrthdrawiad rhwng car Hyundai lliw arian a cherddwr. 

Cafodd y gyrrwr a'r cerddwr eu cludo i ysbyty, a bu farw'r gyrrwr yno yn ddiweddarach. 

Mae ei deulu yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae Heddlu Gwent yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad. 

Mae modd i bobl sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ddrwy ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400021884, neu drwy anfon neges bersonol ar gyfryngau cymdeithasol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.