Newyddion S4C

'O'n ni'n dala dwylo': Hedfan i Fryste cyn gorfod glanio yng Nghaeredin ynghanol Storm Isha

22/01/2024
Heledd Lewis

Roedd ffrindiau o Gymru wedi bwriadu hedfan i Fryste o'r Swistir ddydd Sul - cyn iddynt orfod glanio yng Nghaeredin 300 milltir i ffwrdd o achos Storm Isha.

Dywedodd Heledd Lewis o Gaerdydd wrth Newyddion S4C mai profiad brawychus oedd ceisio glanio ym maes awyr Bryste cyn cael eu dargyfeirio i'r Alban ynghanol hyrddiadau o 90mya.

Roedd hi'n teithio o Genefa i Fryste gyda'i ffrindiau yn dilyn gwyliau sgïo yn Chamonix yn ne ddwyrain Ffrainc.

Er i'w awyren geisio glanio ym maes awyr Bryste, roedd y storm wedi eu hatal rhag glanio yno a bu'n rhaid hedfan i faes awyr Caeredin.

"O’dd bach o delay cyn i ni adael a wnaeth y pilot dweud bod 'na storm eitha mawr a bod glanio mynd i fod yn anodd," meddai.

"Wrth i ni ddod, ni’n dod yn agosach at lanio wedodd y pilot bod y storm yn waeth na’r disgwyl.

"O’dd hi’n rili rough yn dod lawr, o’dd pobl yn eitha ypset ar y plane. O’dd e’n teimlo bod ni reit agos i’r ddaear ac wedyn yn syth o’dd e’n egines on a cleimo cleimo cleimo nôl lan.

"Oedden ni gyd yn dala dwylo a o’dd e’n eitha scary.

"O ti lan a lawr a draw a draw achos oedd gymaint o wynt, union fel turbulance gwael o’dd e’n sigledig iawn."

Mae Heledd Lewis a'i ffrindiau bellach wedi hedfan i Fryste o Gaeredin ddydd Llun.

Effeithiau'r storm

Cafodd miloedd o gartrefi eu gadael heb drydan ddydd Sul o ganlyniad i Storm Isha.

Mae rhybudd oren am wyntoedd cryfion wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 18:00 nos Sul, ac fe fydd yn parhau tan 09:00 fore Llun.

Cafodd hyrddiadau 90mya eu cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri ddydd Sul.

Roedd toriadau ar gyflenwadau trydan ar draws de orllewin Cymru am amser hefyd.

Llun: Jennifer Jones / X

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.