Ron DeSantis yn tynnu allan o’r ras Arlywyddol a datgan ei gefnogaeth i Trump
Mae ymgeisydd y Blaid Weriniaethol, Ron DeSantis, wedi tynnu allan o’r ras i fod yn Arlywydd UDA yn 2024, gan ddatgan ei gefnogaeth i Donald Trump.
Fe wnaeth Mr DeSantis, sef llywodraethwr talaith Florida, dynnu allan cyn y rhagetholiad yn nhalaith New Hampsire, sef yr ail ornest yn unig allan o 50 i sicrhau enwebiad y Blaid Weriniaethol.
Roedd cefnogaeth iddo yn isel yn New Hampshire, yn y rhagolygon yno.
Daw wedi iddo golli’n drwm i Trump yng nghawcws Iowa wythnos diwethaf.
Dywedodd Mr DeSantis, oedd yn cael ei ystyried fel y prif gystadleuydd yn erbyn Trump ar gyfer yr enwebiad Gweriniaethol, nad oedd bellach “llwybr clir i fuddugoliaeth” iddo.
Mae hynny yn golygu mai Nikki Haley yw’r unig ymgeisydd ar ôl yn erbyn Trump yn y gystadleuaeth i ennill enwebiad y blaid a sefyll yn erbyn Joe Biden yn yr etholiad fis Tachwedd.
Inline Tweet: https://twitter.com/RonDeSantis/status/1749159384112845285?s=20
Mewn neges ar gyfrwng X, dywedodd Mr DeSantis : "Pe bai unrhyw beth y gallwn i fod wedi ei wneud i greu canlyniad mwy manteisiol – mwy o gyfleoedd i stopio ar yr ymgyrch neu mwy o gyfweliadau – byddwn ni yn gwneud.”
Ychwanegodd ei fod nawr yn cymeradwyo Trump fel ymgeisydd y blaid, gan ddweud ei fod yn glir bod y rhan fwyaf o gefnogwyr y Gweriniaethwyr “eisiau rhoi cyfle arall i Donald Trump.”