Newyddion S4C

Buddugoliaeth enfawr i Donald Trump yn Iowa

16/01/2024
Donald Trump

Mae Donald Trump wedi ennill buddugoliaeth ysgubol yng nghawcws Iowa, y gyntaf o 50 gornest i sicrhau enwebiad y Blaid Weriniaethol ar gyfer Etholiad Arlywyddol 2024.

Gyda 95% o’r pleidleisiau wedi eu cyfri roedd Trump wedi sicrhau tua 51% ohonyn nhw, gyda Ron DeSantis ar 21%, Nikki Haley ar 19%, a Vivek Ramaswamy ar 8%, yn ôl CBS.

Mae’n cadarnhau mai Trump yw’r ffefryn clir ar gyfer enwebiad arlywyddol Gweriniaethol 2024.

Dywedodd Donald Trump ei fod yn “noson fawr” ond y byddai “y noson fwyaf ym mis Tachwedd”.

Fe addawodd y byddai yn “trwsio ein hetholiadau” a datrys y rhyfeloedd yn Wcráin a Gaza “yn gyflym iawn”.

Wedi buddugoliaeth Trump dywedodd yr Arlywydd presennol Joe Biden ei fod yn bryd i’w gefnogwyr fynd i’w pocedi.

"Mae'n edrych fel bod Donald Trump newydd ennill Iowa,” meddai.

“Ef yw'r ceffyl blaen amlwg ar yr ochr arall ar hyn o bryd.

“Ond dyma’r peth: roedd yr etholiad hwn bob amser yn mynd i fod amdanoch chi a fi yn erbyn Gweriniaethwyr MAGA eithafol.

“Os ydych chi gyda ni, gwnewch gyfraniad rŵan.”

Dywedodd y newyddiadurwr Maxine Hughes mai "diwedd y dechrau yw hyn" ond ei fod yn amlwg fod gan Donald Trump yr enwebiad o "fewn golwg".

"Bydd y Democratiaid yn dechrau teimlo yn bryderus iawn. Mae'n hunllef sy'n dechrau dod yn wir," meddai wrth Radio Cymru.

‘Hunllef’

Iowa yw’r cyntaf o’r 50 talaith yn yr Unol Daleithiau i ddechrau pleidleisio, cyn New Hampshire ar 23 Ionawr.

Bydd pwy bynnag sy'n ennill yr enwebiad Gweriniaethol yn wynebu ymgeiswyr y Democratiaid yn etholiad arlywyddol mis Tachwedd.

Roedd buddugoliaeth gan Trump i’w ddisgwyl ond roedd yr ornest am yr 2il safle hefyd yn un arwyddocaol.

Roedd cyn-lysgennad yr Unol Daleithiau i’r Cenhedloedd Unedig, Nikki Haley a Llywodraethwr Florida Ron DeSantis wedi gobeithio cadarnhau mai nhw oedd y brif her i enwebiad Donald Trump.

Yn y cyfamser mae'r dyn busnes Vivek Ramaswamy wedi penderfynu gadael y ras ac wedi rhoi sêl bendith i Trump ar ôl dod yn drydydd pell.

Fe fydd y bleidlais nesaf yn New Hampshire, lle mae’r bwlch rhwng Donald Trump a Nikki Haley yn y polau piniwn yn fwy cyfyng, yn debygol o benderfynu a yw Trump yn ennill yr enwebiad yn hawdd neu a fydd yna her wirioneddol iddo.

Dywedodd Ron DeSantis ei fod wedi sicrhau'r ail safle “er bod y cyfryngau yn ein herbyn ni”, gan ychwanegu ei fod dal a’i fryd ar “fod yr arlywydd nesaf a gwneud yr hyn sydd ei angen ar gyfer y wlad”.

Dywedodd Nikki Haley mai ei hymgyrch hi oedd “y cyfle olaf i atal hunllef ras Biden-Trump arall”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.