Newyddion S4C

Sarah Ferguson yn derbyn diagnosis o ganser y croen

22/01/2024
sarah ferguson.png

Mae Duges Efrog Sarah Ferguson wedi derbyn diagnosis o ganser y croen.

Mae Ms Ferguson, 64, wedi cael diagnosis o melanoma llidiol wedi iddi gael tynnu man geni (mole) oedd yn cynnwys canser yn ystod triniaeth ar gyfer canser y fron.

Dywedodd bod sawl man geni wedi cael eu tynnu a'u dadansoddi tra'n cael triniaeth yn dilyn mastectomi.

Dywedodd llefarydd ar ei rhan ei bod yn "parhau mewn hwyliau da" er ei fod yn "anodd" derbyn diagnosis arall o ganser. 

"Mae hi’n derbyn ymchwiliadau pellach i sicrhau bod hyn wedi’i ddal yn y camau cynnar.

"Mae'r Dduges eisiau diolch i'w thîm meddygol sydd wedi ei chefnogi, yn enwedig ei dermatolegydd am fod yn wyliadwrus a sicrhau fod y cyflwr wedi ei ganfod.

"Mae'n credu bod ei phrofiad yn pwysleisio'r pwysigrwydd o wirio maint, siâp, lliw, gwead ac ymddangosiad mannau geni  a all fod yn arwydd o melanoma."

Derbyniodd ddiagnosis o ganser y fron y llynedd wedi prawf mamogram arferol.

Siaradodd am ei thriniaeth yn gyhoeddus iawn, gan erfyn ar ferched eraill i fynd am brawf a chodi ymwybyddiaeth o'r canser.

Roedd Ms Ferguson yn briod â Dug Efrog, y Tywysog Andrew, am 10 mlynedd cyn cael ysgariad ym 1996.

Mae ganddynt ddwy o ferched - y Dywysoges Beatrice a'r Dywysoges Eugenie. 

Daw diagnosis Ms Ferguson wedi i Balas Kensington gadarnhau fod Tywysoges Cymru Catherine Middleton yn yr ysbyty wedi iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen, ac na fydd yn "dychwelyd i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus tan ar ôl y Pasg."

Cyhoeddodd Palas Buckingham y bydd y Brenin Charles yn mynd i'r ysbyty hefyd am driniaeth yn ymwneud â phrostad chwyddedig.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.