Crwner i gyflwyno ei gasgliad ar farwolaeth Christopher Kapessa yn Afon Cynon
Mae disgwyl i grwner gyflwyno ei gasgliad ddydd Llun ar farwolaeth bachgen 13 oed a foddodd yn Afon Cynon ger Aberpennar bedair blynedd a hanner yn ôl.
Bu farw Christopher Kapessa ar ôl y digwyddiad yn Afon Cynon ger Aberpennar yn Rhondda Cynon Taf ar 1 Gorffennaf 2019.
Mae honiadau iddo gael ei wthio i Afon Cynon, ger Fernhill, gan fachgen arall.
Ni chafodd y bachgen, oedd yn 14 oed ar y pryd, ei erlyn. Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn 2020 nad oedd ei erlyn er budd y cyhoedd.
Heriodd Mam Christopher, Alina Joseph, y penderfyniad yn ddiweddarach mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn Llundain ond fe gafodd hynny ei wrthod gan ddau farnwr.
Clywodd y cwest nad oedd dim tystiolaeth o hiliaeth yn achos ei farwolaeth.
Dywedodd tystion yn y cwest eu bod wedi clywed y bachgen yn gofyn os y dylai "wthio Christopher i mewn i'r dŵr".
Ond wrth roi tystiolaeth, dywedodd y bachgen ei fod wedi "syrthio i mewn iddo".
Wrth gael ei holi gan Michael Mansfield KC oedd yn cynrychioli Ms Joseph, dywedodd y bachgen nad oedd wedi ymddiheuro wrthi hi am yr hyn ddigwyddodd "oherwydd na wnes i ei wthio i mewn i'r dŵr".
Fe wnaeth tri bachgen ac un ferch neidio i mewn i'r dŵr er mwyn ceisio achub Christopher wedi iddo ddechrau gweiddi am gymorth.
Clywodd y cwest fod Heddlu De Cymru yn wreiddiol wedi cael gwybod gan dystion fod Christopher wedi syrthio i'r dŵr, heb unrhyw arwydd ei fod wedi cael ei wthio i mewn.
Ond dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell fod sibrydion wedi dechrau yn ddiweddarach fod Christopher wedi cael ei wthio i mewn, ac fe gafodd y tystion eu cyfweld eto.
Dywedodd datganiad a gafodd ei ddarllen ar ran Alina Joseph fod "Rwyf mor falch o'i alw'n fab i mi. Roedd bob amser yn rhoi 100% ym mhopeth a wnaeth.
"Ni fydd bywyd fyth yr un peth ar ôl marwolaeth Christopher. Fel mam, dydych chi ddim yn rhoi’r gorau i fagu plant ar ôl i’ch plentyn farw … byddaf yn parhau i frwydro am gyfiawnder iddo."